Mater - cyfarfodydd

Medium Term Financial Strategy and Budget 2020/21

Cyfarfod: 22/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 34)

34 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig: Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2020/21 pdf icon PDF 309 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i aelodau am y sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb ar gyfer 2020/21 ac unrhyw gynigion arbennig ar gyfer y Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar arbedion effeithlonrwydd arfaethedig ar gyfer y gyllideb a phwysau costau ar gyfer Addysg ac Ieuenctid ar ôl cwblhau'r gwaith sydd ar y gweill ar ddewisiadau cyllid corfforaethol a phenderfyniad cyllideb Llywodraeth Cymru (LlC).   Roedd LlC wedi cadarnhau’n ddiweddar y byddent yn cyhoeddi cyllideb ddrafft Cymru ar 16 Rhagfyr gyda Setliad Dros Dro yn cael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod.   Byddai cwblhau’r broses o osod y gyllideb yn gyfrifoldeb ar gyfer y Cyngor yn ei gyfarfod ym mis Ionawr – Mawrth.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid)  Arbedion Effeithlonrwydd arfaethedig Cynllun Busnes y Portffolio, fel y nodwyd yn yr adroddiad ac egluro bod cyllidebau wedi'u gostwng cymaint ag sy'n ddiogel er mwyn diogelu cyllidebau dirprwyedig ysgolion.     

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Patrick Heesom bryderon o ran unrhyw gynnydd yn y tybiaethau gweithiol ar Dreth y Cyngor ac roedd yn teimlo y byddai'n annerbyniol cynyddu Treth y Cyngor yn uwch na 5%.   Awgrymodd bod dewisiadau effeithlonrwydd pellach yn cael eu harchwilio a bod Aelodau’n derbyn cynllun gwariant portffolio er mwyn dadansoddi a deall cyllidebau portffolio yn well.   Gofynnodd hefyd am ragor o wybodaeth ar y pwysau sy’n cael ei achosi gan ddiffygion ariannol ym malansau ysgolion.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol na fyddai unrhyw arbedion effeithlonrwydd ychwanegol yn cael eu ceisio o bortffolios ac na fu ceisiadau newydd gan Aelodau i ystyried meysydd newydd o arbedion effeithlonrwydd.   Eglurodd Rheolwr Cyllid Addysg mai un o'r pwysau mwyaf sylweddol ar gyllideb ysgol oedd cyflwyno Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) gan fod hyn yn ei gwneud yn ofynnol fod gan ysgolion adnoddau ychwanegol i gefnogi disgyblion gydag ADY.   Amlinellodd hefyd y pwysau ar gyllidebau ysgol yn dilyn Dyfarniad Cyflog Athrawon na fyddai’n cael ei ariannu’n llawn.  

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Mr.David Hytch, eglurodd y Prif Swyddog, nad oedd yr arbedion effeithlonrwydd a nodwyd yn y Gwasanaeth Darpariaeth Ieuenctid Integredig yn golygu colli swydd swyddog ac y byddai'r cyllid ychwanegol a nodwyd ar gyfer y Tîm Cyfiawnder Ieuenctid yn gymorth i atgyfnerthu'r strwythur rheoli drwy benodi i swydd Uwch Reolwr.  

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Tudor Jones am adolygiad actiwaraidd o Gronfa Bensiynau Clwyd, eglurodd y Rheolwr Cyllid Strategol bod yr adolygiad bron â’i gwblhau.   Rhagwelir y byddai gostyngiad yn y swm a delir gan y Cyngor o oddeutu £2m.  

 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin at yr heriau y mae ysgolion uwchradd sydd â diffyg yn eu cyllidebau yn eu hwynebu a gofyn a oedd ysgolion yn cael eu herio a'u cefnogi i archwilio a oes modd canfod rhagor o arbedion effeithlonrwydd.   Nododd hefyd y rhaglen 'Mockingbird’ gan egluro ei fod yn enghraifft dda o atgyfnerthu darpariaeth mewn modd sy'n effeithlon yn ariannol.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod ysgolion yn cael eu herio a'u cefnogi a bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal ar gyfer ysgolion sy'n profi anawsterau ariannol.   Amlinellodd y Cytundeb Diffyg Trwyddedig ar gyfer ysgolion gyda diffyg yn y gyllideb ac adrodd bod adolygiad o’r Cytundeb wedi’i gynnal yn ddiweddar gyda fersiwn  ...  view the full Cofnodion text for item 34