Mater - cyfarfodydd
Medium Term Financial Strategy and Budget 2020/21
Cyfarfod: 22/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 25)
25 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig: Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2020/21 PDF 226 KB
Pwrpas: Rhoi gwybod i aelodau am y sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb ar gyfer 2020/21 ac unrhyw gynigion arbennig ar gyfer y Portffolio.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Summary of Pressures, eitem 25 PDF 102 KB
- Appendix 2 - Summary of Efficiencies, eitem 25 PDF 246 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar effeithlonrwydd cyllideb arfaethedig a phwysau costau Cymuned a Menter tra’n cwblhau’r gwaith ar ddewisiadau cyllid corfforaethol a phenderfyniad ar gyllideb Llywodraeth Cymru (LlC). Roedd LlC wedi cadarnhau yn ddiweddar y byddent yn cyhoeddi cyllideb drafft Cymru ar 16 Rhagfyr gyda’r Setliad Dros Dro yn cael ei gyhoeddi yr un diwrnod. Rôl y Cyngor fyddai cwblhau’r broses setlo’r gyllideb yn ei gyfarfod yn Ionawr-Mawrth.
Dywedodd y Cynghorydd Patrick Heesom ei fod yn gobeithio y byddai setliad dros dro buddiol yn dod gan Lywodraeth Cymru. Roedd yn codi pryderon am unrhyw gynnydd yn y rhagdybiaeth gwaith ar Dreth y Cyngor a dywedodd ei fod yn credu fod llawer o Aelodau yn teimlo na ddylid ystyried unrhyw gynnydd uwch na 5%. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd bod 5% yn ffigwr gwaith yn unig gan Lywodraeth Cymru ac nad oedd y Cyngor wedi gwneud penderfyniad ffurfiol ar lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21.
Cafodd yr argymhellion o fewn yr adroddiad eu cynnig gan y Cynghorydd Ray Hughes a’u heilio gan y Cynghorydd Ron Davies.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cynigion effeithiolrwydd Cymuned a Menter ar gyfer 2020/21; a
(b) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r pwysau cost Cymuned a Menter a argymhellwyd i’w cynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2020/21.