Mater - cyfarfodydd

Medium Term Financial Strategy: Council Fund Revenue Budget 2020/21 - Corporate Services/Corporate Financing

Cyfarfod: 14/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 59)

59 Strategaeth Ariannol Tymor Canolig: Cyllideb Cronfa'r Cyngor 2020/21 - Gwasanaethau Corfforaethol/Cyllid Corfforaethol pdf icon PDF 230 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i aelodau am y sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb ar gyfer 2020/21 ac unrhyw gynigion arbennig ar gyfer y Portffolio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar arbedion arfaethedig i’r gyllideb a phwysau cost i’r Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid Corfforaethol yn amodol ar gwblhau gwaith parhaus ar ddewisiadau cyllid corfforaethol a datrys cyllideb Llywodraeth Cymru (LlC).

 

Wrth groesawu’r adroddiad, mynegodd y Cynghorydd Heesom bryderon am unrhyw gynnydd yn y dybiaeth weithredol ar y Dreth Gyngor. Esboniodd y Cynghorydd Roberts mai swm mynegol oedd hwn oedd yn cael ei gynnwys at ddibenion cyllidebu ac, yn absenoldeb codiad sylweddol mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru, ni fyddai awydd ar draws Siambr y Cyngor am gynnydd uwch.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol eglurhad i’r Cynghorydd Bateman am y goblygiadau refeniw a chyfalaf o’r diffyg mewn incwm rhent yn sgil gwerthu eiddo.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Johnson a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Bateman. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom i’r cofnodion nodi ei fod yn atal ei bleidlais a’i fod yn nodi’r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cynigon am arbedion i’r Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid Corfforaethol ar gyfer 2020/21; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo pwysau cost y Gwasanaethau Corfforaethol a’r Cyllid Corfforaethol a argymhellwyd i’w cynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2020/21.