Mater - cyfarfodydd

Regulated Services Engagement and Consultation

Cyfarfod: 14/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 40)

40 Ymgysylltiad ac Ymgynghoriad Gwasanaethau Rheoledig pdf icon PDF 127 KB

Pwrpas:        Ystyried yr ymgynghoriad drafft.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion adroddiad i ystyried yr ymgynghoriad drafft. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod y broses a ddisgrifir yn yr adroddiad yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda phobl a oedd yn defnyddio'r gwasanaethau, ac wedi'i ddylunio i fod yn gynhwysfawr, cadarn a chynaliadwy, yn bodloni gofynion rheoliadol, a hefyd yn darparu’r wybodaeth sydd ei angen i sicrhau bod gwasanaethau’r Awdurdod o ansawdd uchel ac yn parhau i fodloni anghenion yr unigolion sy’n cael eu cefnogi. 

 

Roedd y prosesau ymgysylltu a drafodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys gofal preswyl pobl h?n mewnol, gofal ychwanegol, gofal cartref a byw â chymorth, a gofal tymor byr i bobl gydag anableddau dysgu.  Amcan cyffredinol oedd gweithredu proses adolygu o ansawdd ar draws y gwasanaeth gyfan a dysgu a rennir ar draws y sector mewn perthynas â'r hyn sydd wedi gweithio'n dda ac unrhyw wersi neu adlewyrchiadau i wella.  Gwahoddodd yr Uwch Reolwr y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r adroddiad. 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod gofyniad dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol newydd (Cymru) 2016 (RISCA) i’r Unigolyn Cyfrifol i ymgysylltu ac ymgynghori gydag unigolion sydd yn defnyddio gwasanaethau’r Awdurdod yn rheolaidd ac mewn modd effeithiol. Mae Rheoliad 76 y RISCA yn nodi’r gofynion, fel y nodir yn yr adroddiad. Cyfeirioedd at y gwaith ymgysylltu a gynhaliwyd a’r fethodoleg sy’n tanategu’r gwaith a oedd wedi seilio ar ddull ‘dweud stori’. Darparwyd gynllun cyfathrebu i danategu’r broses gyfan. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth bod RISCA wedi gosod ansawdd gwasanaeth a gwelliant yng ngwraidd rheoliad. Bydd y dull hwn yn dangos bod gan gofal a gwasanaethau cynnal y Cyngor ddiwylliant o wella ansawdd, gan ddefnyddio dulliau o gyd-gynhyrchu, gan ffocysu ar ganlyniadau a phrofiad ar gyfer yr unigolyn a thrwy wrando ar newid cadarnhaol.

 

Roedd yr Aelodau yn cefnogi’r broses ymgysylltu a’r ymgynghoriad, a diolchwyd i'r Uwch Reolwr a’r Rheolwr Gwasanaeth am eu gwaith.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Martin White yr argymhellion yn yr adroddiad ac eilwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y broses ymgysylltu ac ymgynghoriad i fodloni anghenion y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA) yn cael ei ardystio; a

 

 (b)      Bod y cynnydd a cham 2 y gwaith ar y gweill a fydd yn ffurfio rhan o adroddiad blynyddol yr unigolyn cyfrifol, yn cael ei nodi.