Mater - cyfarfodydd

Capital Strategy and Asset Management Plan 2020 - 2026

Cyfarfod: 14/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 62)

62 Strategaeth Gyfalaf a Cynllun Rheoli Asedau 2020 - 2026 pdf icon PDF 129 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Cynllun Rheoli Asedau 2020 - 2026 ar gyfer ei adolygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar Gynllun Rheoli Asedau Corfforaethol 2020-26 a adnewyddwyd, a osododd strategaeth tymor canolig y Cyngor ar gyfer rheoli ei asedau a symud tuag at y portffolio asedau gorau posibl. Cafodd cyfanswm gwerth asedau’r Cyngor, sef tir ac eiddo yn bennaf, eu prisio am £762m. Crëwyd dros £7m o dderbynebau cyfalaf dros y tair blynedd diwethaf i fuddsoddi yn y Rhaglen Gyfalaf.

 

Rhannodd y Cynghorydd Heesom ei bryderon ynghylch i ba raddau y gallai’r asedau cyfalaf a chorfforaethol gyfrannu at y gyllideb refeniw. Croesawodd y diweddariad a siaradodd am y potensial i drafod gyda’r Arweinwyr Gr?p ar y Gofrestr Asedau.

 

Wrth groesawu’r adroddiad, siaradodd y Cynghorydd Mullin am y dull adeiladol a gymerwyd i optimeiddio’r portffolio asedau.

 

O ran pwynt y Cynghorydd Heesom, dywedodd y Prif Weithredwr nad effeithiodd y derbynebau cyfalaf yn uniongyrchol ar y ‘bwlch’ yng nghyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor. Er yr ymddangosai cyfanswm gwerth yr asedau’n sylweddol, roedd hyn yn cynnwys yr ystâd gyhoeddus gyfan, er enghraifft ysgolion a chanolfannau hamdden, ac roedd tybiaethau’r dyfodol ar dderbynebau cyfalaf yn gymedrol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn cynharach gan y Cynghorydd Heesom, esboniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod yr heriau wrth recriwtio i’r tîm asedau a phrisio wedi cymell dull gwahanol o ychwanegu at adnoddau gydag ymgynghorwyr arbenigol allanol. Yn ogystal, roedd proses recriwtio ar waith i lenwi swydd wag ar lefel uwch.

 

Dywedodd y Cynghorydd Johnson y gallai ymchwil ar y ddemograffeg newidiol mewn trefi llai o faint ffurfio rhan o drafodaethau’r dyfodol.

 

Croesawodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad fel cynllun integredig ar gyfer monitro ystâd y Cyngor i’r dyfodol.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Cunningham ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Williams.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi Cynllun Rheoli Asedau 2020-2026 er mwyn iddo allu cael ei fabwysiadu fel y brif ddogfen ar gyfer rheoli eiddo corfforaethol ac asedau adnoddau tir y Cyngor.