Mater - cyfarfodydd

Capital Strategy including Prudential Indicators 2020/21 - 2022/23

Cyfarfod: 14/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 61)

61 Strategaeth Gyfalaf yn Cynnwys Dangosyddion Darbodus 2020/21 – 2022/23 pdf icon PDF 186 KB

Pwrpas:        Cyflwyno’r Strategaeth Gyfalaf 2020/21 - 2022/23 ar gyfer ei adolygu.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid (Cyfrifeg Dechnegol) y Strategaeth Gyfalaf wedi’i diweddaru cyn cyflwyno i’r Cabinet. Roedd y Strategaeth yn ddogfen gyffredinol a ddygodd ynghyd amryw strategaethau a pholisïau, wedi’u rhannu’n nifer o adrannau ac yn cynnwys manylion Dangosyddion Darbodus y Cyngor ar gyfer 2020-21 - 2022-23. Ni wnaed unrhyw newidiadau sylweddol o’r flwyddyn flaenorol.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Collett ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn argymell y Strategaeth Gyfalaf i’r Cabinet; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn argymell y canlynol i’r Cabinet:-

 

·         Y Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2020/21 - 2022/23 fel y manylwyd yn Nhablau 1, a 4 – 7 sy’n cynnwys y Strategaeth Gyfalaf.

·         Awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol weithredu symudiadau rhwng y terfynau a gytunwyd ar wahân o fewn y terfyn awdurdodedig ar gyfer dyled allanol a’r ffin weithredol ar gyfer dyled allanol (Tabl 6 y Strategaeth Gyfalaf).