Mater - cyfarfodydd

Outcome of Estyn Inspection

Cyfarfod: 20/11/2019 - Pwyllgor Archwilio (eitem 39)

39 Canlyniad Arolwg Estyn pdf icon PDF 131 KB

Hysbysu'r Aelodau o ganlyniad yr Arolwg diweddar gan Estyn o Wasanaethau Addysg Cyngor Sir Y Fflint.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar ganlyniad arolygiad diweddar Estyn o wasanaethau addysg yn Sir y Fflint er mwyn rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) fod hwn yn adroddiad cadarnhaol a roddodd sicrwydd o ansawdd y gwasanaethau ac a ddynododd feysydd cryfder arwyddocaol mewn darpariaeth addysgol. Roedd y pedwar argymhelliad ar gyfer gwelliant, a nodwyd eisoes trwy broses hunanasesu’r Cyngor, yn cael eu symud ymlaen trwy gynllun gweithredu a wiriwyd gan Estyn. Byddai hyn yn destun monitro trwy adroddiadau perfformiad chwarterol i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid.

 

Amlygodd y Cynghorydd Heesom yr argymhelliad i leihau gwaharddiadau a chynyddu presenoldeb mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Dywedodd y Prif Swyddog fod hon yn her i Sir y Fflint ac yn ehangach yn sgil nifer o resymau, gan gynnwys y pwysau allanol cynyddol sy’n wynebu pobl ifanc. Roedd y swyddogion yn gweithio’n agos gyda Phenaethiaid ac yn gwneud gwell defnydd o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i ymgysylltu ag ysgolion i dargedu cymorth priodol i bobl ifanc mewn perygl o gael eu gwahardd.

 

Disgrifiodd y Prif Weithredwr yr argymhelliad hwn fel yr un mwyaf heriol oherwydd y ffactorau allanol. Siaradodd am y gwaith cymhleth a sensitif oedd yn mynd rhagddo i annog ymarfer mwy cyson a holistaidd o fewn ysgolion a chyrff llywodraethol.

 

Llongyfarchodd Sally Ellis y Prif Swyddog a’i thîm ar ganlyniadau cadarnhaol adroddiad Estyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r ddau swyddog am eu presenoldeb.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn derbyn ac yn cydnabod canfyddiadau adroddiad Estyn ar wasanaethau addysg yn Sir y Fflint.