Mater - cyfarfodydd

Progress Report on Flintshire Micro-Care Pilot

Cyfarfod: 17/12/2019 - Cabinet (eitem 122)

122 Adroddiad Cynnydd Cynllun Peilot Micro-ofal Sir y Fflint pdf icon PDF 151 KB

Pwrpas:        Nodi’r cynnydd ar y Peilot Micro-Ofal Sir y Fflint.

Cofnodion:

                        Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr Adroddiad Cynnydd ar Gynllun Peilot Micro-Ofal Sir y Fflint, ac eglurodd, yn dilyn astudiaeth ddichonoldeb, fod y Cyngor wedi sefydlu prosiect cynllun Micro-Ofal i fynd i’r afael mewn ffordd arloesol â phroblem cyflenwi gofal.  Roedd cais y Cyngor i gael arian gan Cadwyn Clwyd a Llywodraeth Cymru tuag at weithredu’r prosiect wedi bod yn llwyddiannus.

 

                        Y diffiniad o gynlluniau micro-ofal yw cwmnïau bach gyda 5 aelod o staff, nifer ohonynt yn unig fasnachwyr, sy’n darparu gwasanaethau’n ymwneud â gofal i ddinasyddion Sir y Fflint. Byddai’r cynllun peilot yn mynd tan Fehefin 2021 ac ynghyd â Chwmnïau Cymdeithasol Cymru, Canolfan Gydweithredol Cymru a budd-ddeiliaid eraill, byddai’n helpu i ddatblygu cynlluniau Micro-Ofal yn Sir y Fflint. 

 

Dywedodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai hwn oedd un o’r cynlluniau peilot cyntaf o’i fath yng Nghymru a bod arloesi a chymryd risg gadarnhaol yn hanfodol i’r cynllun peilot allu llwyddo. 

 

Gallai twf Micro-ofal atal yr argyfwng yn y sector gofal fel mesur ataliol, gan ddarparu gofal oedd yn effeithiol, effeithlon ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddai’r prosiect yn cynnig cyfleoedd i adeiladu gwytnwch mewn cymunedau trwy ddatblygu atebion lleol, pwrpasol i anghenion gofal pobl.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma.