Mater - cyfarfodydd

Quarter 3 Council Plan 2019/20 Monitoring Report

Cyfarfod: 16/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 47)

47 Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 pdf icon PDF 124 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2019/20

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu'r adroddiad a oedd yn darparu  crynodeb o’r gwaith monitro cynnydd ar gyfer chwarter 3 (Hydref - Rhagfyr 2019) 2019/20 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ‘Cyngor sy’n Cysylltu’, ‘Cyngor Gofalgar’, a ‘Chyngor Uchelgeisiol’ sydd yn berthnasol i’r Pwyllgor. Dywedodd fod yr ail adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2019/20 yn adroddiad cadarnhaol gydag 89% o weithgareddau'n gwneud cynnydd da ac 89% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd. Yn ogystal â hyn, roedd 81% o'r dangosyddion perfformiad wedi'u diwallu neu wedi rhagori ar y targed. Roedd y risgiau yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (71%) neu’n fân risgiau/risgiau ansylweddol (18%).  Ni nodwyd unrhyw risgiau mawr ar gyfer y Pwyllgor. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd David Wisinger yr argymhelliad yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Paul Johnson. 

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.