Mater - cyfarfodydd

Quarter 3 Council Plan 2019/20 Monitoring Report

Cyfarfod: 11/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 49)

49 Adroddiad Monitro Chwarter 3 Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 pdf icon PDF 136 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a'r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) adroddiad i gyflwyno crynodeb o'r gwaith monitro a wnaed o gynnydd o ran sefyllfa chwarter tri 2019/20 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun y Cyngor 'Cyngor sy’n Gofalu', 'Cyngor Uchelgeisiol' a 'Chyngor sy’n Gwasanaethu' sy'n berthnasol i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tan-berfformio.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) er bod nifer yr unigolion a gefnogwyd trwy'r gwasanaeth mentora sy'n mynd i gyflogaeth, dysgu a gwirfoddoli yn is na'r targed, roedd ef a'r tîm yn hyderus bod y targed blwyddyn lawn yn gyraeddadwy.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Rosetta Dolphin sylwadau ar berfformiad y Tîm Digartrefedd a'r Tîm sy'n cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru ar gyfer tenantiaid y Cyngor a gofynnodd am anfon llythyr at Jenni Griffiths, Rheolwr Digartrefedd a Chyngor a Sean O'Donnell, Rheolwr Tîm Gwaith Cyfalaf yn diolch iddyn nhw a'u timau am eu gwaith caled yn eu meysydd gwasanaeth.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dolphin hefyd at fesur perfformiad 1.4.5.1 a gofynnodd pam y dangoswyd bod y cynnydd yn wyrdd os oedd nifer yr unedau llety cymdeithasol a ddarparwyd wedi gostwng ar ôl i'r gymdeithas dai fethu â chyrraedd ei tharged. Cytunodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i ddarparu ymateb yn dilyn y cyfarfod.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dolphin ynghylch gosod pympiau gwres yr awyr, cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) i ddarparu manylion y swyddogion i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod fel y gallai'r Aelodau ddarparu gwybodaeth i breswylwyr trwy eu cylchlythyrau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.