Mater - cyfarfodydd

Council Plan 2019/20 – Mid Year Monitoring

Cyfarfod: 14/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 39)

39 Cynllun y Cyngor 2019/20 – Monitro Canol Blwyddyn pdf icon PDF 295 KB

Pwrpas:        Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a oedd yn cyflwyno crynodeb o’r perfformiad ar y pwynt canol blwyddyn yn 2019/20 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ‘Cyngor Gofalgar’, a ‘Cyngor Diogel a Glân’ sydd yn berthnasol i’r Pwyllgor. Dywedodd bod yr adroddiad monitro canol blwyddyn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 yn dangos bod 88% o weithgareddau'n gwneud cynnydd da a bod 90% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau bwriadedig. Roedd 77% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau. Mae risgiau yn cael eu rheoli, gyda 14% yn unig wedi’u hasesu fel rhai sylweddol. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at ddwy risg fawr a nodwyd i’r Pwyllgor fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Tynnodd y Cynghorydd Dave Mackie sylw at dudalen 115 (CP1.1.4MO2) a dywedodd nad oedd unrhyw ddata ar duedd dangosydd perfformiad a thudalen 116 (CP1.2.2MO1) a (CP1.2.2.MO2) a dywedodd bod y targedau cyfnod ar goll. Rhoddodd y Swyddogion eglurhad ynghylch y dadansoddiad a gyflwynwyd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie gefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Cunningham.

 

PENDERFYNWYD:

Nodi’r adroddiad.