Mater - cyfarfodydd
Council Plan 2019/20 – Mid Year Monitoring
Cyfarfod: 14/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 39)
39 Cynllun y Cyngor 2019/20 – Monitro Canol Blwyddyn PDF 295 KB
Pwrpas: Adolygu’r cynnydd wrth gyflawni gweithgareddau, lefelau perfformiad a lefelau risg presennol fel y nodwyd yng Nghynllun y Cyngor 2019/20.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 – Mid-Year Council Plan Monitoring Report – Caring Council, eitem 39 PDF 711 KB
- Appendix 2 – Mid-Year Council Plan Monitoring Report – Safe and Clean Council, eitem 39 PDF 454 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) yr adroddiad a oedd yn cyflwyno crynodeb o’r perfformiad ar y pwynt canol blwyddyn yn 2019/20 ar gyfer blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ‘Cyngor Gofalgar’, a ‘Cyngor Diogel a Glân’ sydd yn berthnasol i’r Pwyllgor. Dywedodd bod yr adroddiad monitro canol blwyddyn Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 yn dangos bod 88% o weithgareddau'n gwneud cynnydd da a bod 90% yn debygol o gyflawni'r canlyniadau bwriadedig. Roedd 77% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau. Mae risgiau yn cael eu rheoli, gyda 14% yn unig wedi’u hasesu fel rhai sylweddol. Cyfeiriodd y Prif Swyddog at ddwy risg fawr a nodwyd i’r Pwyllgor fel y nodwyd yn yr adroddiad.
Tynnodd y Cynghorydd Dave Mackie sylw at dudalen 115 (CP1.1.4MO2) a dywedodd nad oedd unrhyw ddata ar duedd dangosydd perfformiad a thudalen 116 (CP1.2.2MO1) a (CP1.2.2.MO2) a dywedodd bod y targedau cyfnod ar goll. Rhoddodd y Swyddogion eglurhad ynghylch y dadansoddiad a gyflwynwyd.
Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie gefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Paul Cunningham.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r adroddiad.