Mater - cyfarfodydd
Cemetery Provision and Future Strategy
Cyfarfod: 15/10/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 30)
30 Darpariaeth a Strategaeth Mynwentydd y Dyfodol PDF 126 KB
Pwrpas: Darparu manylion capasiti claddu yn y dyfodol i’r pwyllgor Craffu a’r estyniadau angenrheidiol i’r mynwentydd presennol o fewn Sir y Fflint.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) adroddiad yn ceisio cefnogaeth a gyfer prynu tir i ymestyn Mynwentydd Yr Hôb a Phenarlâg. Hefyd, soniodd bod ymchwiliadau i ddarpariaethau claddu yn y dyfodol mewn Mynwentydd eraill yn y Sir yn cychwyn 4 blynedd cyn y pwynt a ragwelir lle mae’r mynwentydd cyfredol yn llawn.Gwahoddodd y Rheolwr Profedigaeth i ddarparu trosolwg o brif bwyntiau’r adroddiad.
Mewn perthynas â Mynwentydd Bwcle, nododd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod angen dechrau edrych ar ddatrysiadau oherwydd rhagwelir na fyddai'r ddarpariaeth gyfredol yn para mwy na 9 mlynedd. Dywedodd y Cynghorydd Hutchinson ei fod o'n teimlo bod angen i'r Cyngor ail-edrych ar rai materion yn y dyfodol mewn perthynas â thir yn ardal Bwcle.Roedd wedi siarad â Ficar Eglwys Bistre a oedd wedi dweud y byddai'n fodlon rhyddhau rhan o’r tir petai’r Cyngor ei angen.
Mewn perthynas â chwestiynau gan y Cynghorydd Hardcastle, nododd y Rheolwr Profedigaeth bod tir ym Mynwent 2 ym Mhenarlâg yn ymyl gwaelod ochr chwith y fynwent a fyddai’n rhoi 30 mlynedd ychwanegol yn seiliedig ar y gyfradd claddedigaeth gyfredol.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion a’r Aelodau Cabinet am eu presenoldeb.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Paul Shotton ac eiliwyd gan y Cynghorydd Cindy Hinds.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cadeirydd yn cefnogi prynu'r tir a nodwyd i ymestyn Mynwentydd Yr Hôb a Phenarlâg.
(b) Bod y Pwyllgor yn argymell bod ymchwiliadau i ddarpariaethau claddu yn y dyfodol mewn Mynwentydd eraill yn y Sir yn cychwyn 4 blynedd cyn y pwynt a ragwelir lle bo’r mynwentydd cyfredol yn llawn.