Mater - cyfarfodydd
Council Tax Discount Scheme for Foster Carers
Cyfarfod: 17/12/2019 - Cabinet (eitem 118)
118 Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor I Ofalwyr Maeth PDF 88 KB
Pwrpas: Gofyn bod y Cabinet yn cymeradwyo fframwaith polisi’r Cynllun Gostyngiad i Ofalwyr Maeth yn dilyn cymeradwyo’r cynllun mewn egwyddor yng nghyfarfod y Cabinet ym mis Mehefin.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ar y Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor i Ofalwyr Maeth oedd yn cynnwys dull y Cyngor ar gyfer dyfarnu Gostyngiad Treth y Cyngor Dewisol i Ofalwyr Maeth Lleol.
Roedd cyflwyno’r cynllun yn rhan o Gynllun y Cyngor 2019/2023 a strategaeth i wella modelau gwasanaeth maethu trwy wella taliadau lleol ar gyfer plant nad yw eu teuluoedd yn gallu gofalu amdanynt.
Un o’r prif amcanion oedd sicrhau bod darpariaeth ddigonol a chadarn o Ofalwyr Maeth mewnol i ddarparu gofal ar gyfer plant lleol a chynnig Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor Dewisol, o Ebrill 2020, a fyddai’n rhan allweddol o becyn cymorth ehangach i Ofalwyr Maeth mewnol.
Eglurodd Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai’r gost gychwynnol o gynnig gostyngiad o 50% i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod Lleol yn gyfystyr â £92k y flwyddyn, ond y byddai modd adennill y swm hwnnw pe bai dim ond tri o blant yn cael eu lleoli gyda gofalwyr mewnol ar gyfer cyfnod o 12 mis yn hytrach na gydag asiantaethau maethu allanol.
Pwysleisiodd y Cynghorydd Bithell, fel Cadeirydd Fforwm Gwasanaethau Plant, bwysigrwydd y gwaith a wneir gan Ofalwyr Maeth a chroesawodd y cynllun.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r cam o gyflwyno Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor Dewisol i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod Lleol, i ddod i rym o Ebrill 2020; a
(b) Chymeradwyo’r Fframwaith Polisi, fel y mae wedi’i gynnwys yn yr atodiad i’r adroddiad, sy’n amlinellu dull y Cyngor o ddyfarnu Gostyngiad Treth y Cyngor dewisol i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod Lleol.