Mater - cyfarfodydd

Winter Maintenance and Severe Weather Policy

Cyfarfod: 22/10/2019 - Cabinet (eitem 82)

82 Polisi Gwasanaeth Cynnal a Chadw yn y Gaeaf a Thywydd Garw pdf icon PDF 168 KB

Pwrpas:        Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar y Polisi Gwasanaeth Cynnal a Chadw yn y Gaeaf a Thywydd Garw.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas adroddiad ar y Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf a Thywydd Garw a oedd yn diweddaru’r polisi cyfredol ac yn esbonio’r gofynion deddfwriaethol a oedd yn ymwneud â darparu gwasanaeth o’r fath, a’r camau gweithredu a gymerwyd gan bortffolio Strydwedd a Chludiant i ddarparu’r gwasanaeth cynnal a chadw yn y gaeaf. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn amlinellu ymateb y Cyngor i ddigwyddiadau tywydd gwael eraill megis llifogydd a gwyntoedd cryfion.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) mai arfer da oedd adolygu’r polisi yn rheolaidd a bod yr adroddiad yn amlinellu’r newidiadau a gynhwysir yn y fersiwn mwyaf diweddar o’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf i’w cymeradwyo. Amlinellwyd y meysydd allweddol a ystyriwyd gan swyddogion yn yr adroddiad.

 

                        Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod y model gweithredu presennol yn ddigonol o ran ymateb i’r risg a gyflwynwyd yn ystod cyfnodau o dywydd gwael ac roedd yn effeithiol wrth ddefnyddio adnoddau, yn ogystal â chyfyngu ar effaith yr amhariad ar y gwasanaeth a defnyddwyr gwasanaeth ehangach. Nid oedd unrhyw newid sylweddol yn dilyn yr adolygiad, fodd bynnag, yn ystod blynyddoedd diweddar, roedd y gwasanaeth wedi edrych ar wella cyfathrebu yn ystod cyfnodau hir o dywydd garw difrifol, ac roedd y dull wedi’i gynnwys o fewn y polisi.

 

                        Roedd y polisi wedi’i ddiwygio i adlewyrchu’r newid o ran darparwr rhagolygon y tywydd, o  MeteoGroup i MetDesk, yn dilyn caffael y gwasanaeth rhagolygon gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Cymeradwyo’r Polisi Cynnal a Chadw yn y Gaeaf 2019/21 a adolygwyd, sydd yn cynnwys y gweithdrefnau a’r prosesau ar gyfer darparu gwasanaeth cynnal a chadw yn y gaeaf a thywydd garw’r Cyngor.