Mater - cyfarfodydd

Safeguarding Training for Private Hire / Hackney Carriage Drivers

Cyfarfod: 10/10/2019 - Pwyllgor Trwyddedu (eitem 5)

5 Hyfforddiant Diogelu ar gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr Cerbydau Hurio Preifat a Cherbydau Hacni pdf icon PDF 101 KB

Pwrpas:        I Aelodau nodi’r adroddiad mewn perthynas â’r hyfforddiant diogelu gorfodol a oedd wedi ei gymeradwyo’n gynharach gan y Pwyllgor Trwyddedu.

Cofnodion:

Cafodd Aelodau wybod am yr Hyfforddiant Diogelu i Weithredwyr Cerbydau Hurio Preifat a Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat/Hacni yn dilyn cymeradwyaeth y Pwyllgor Trwyddedu ym mis Hydref 2017.

 

Roedd chwe sesiwn, a gynhelir gan y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, wedi cael eu trefnu drwy gydol mis Hydref 2019 ac roedd y manylion yn yr adroddiad.

 

Hyd yma, roedd 373 o yrwyr a gweithredwyr wedi archebu'r hyfforddiant. Ar gyfer y gyrwyr hynny nad oedd yn cymryd mantais o’r sesiynau am ddim a gynigiwyd, codir tâl am fynychu hyfforddiant diogelu yn y dyfodol. Pe byddent yn gwrthod, byddent yn dod gerbron Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu a ydynt yn addas a phriodol i barhau fel gyrrwr trwyddedig neu weithredwr.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi cynnwys yr adroddiad.