Mater - cyfarfodydd

To approve the annual report and accounts

Cyfarfod: 07/10/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 31)

31 Cymeradwyo'r adroddiad blynyddol a'r cyfrifon pdf icon PDF 158 KB

I’r Pwyllgor gymeradwyo’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfrifydd y Gronfa  Bensiynau’r eitem hon ar y Rhaglen, gan ddechrau drwy ymddiheuro bod tudalennau 109 a 110 yr adroddiad a ddosbarthwyd i aelodau'r Pwyllgor yn wreiddiol yn anghywir, a bod disodliadau wedi'u dosbarthu i'r aelodau wedi hynny.  

 

            Eglurodd y byddai rhifau'r tudalennau'n cael eu hychwanegu at Dudalen Gynnwys yr adroddiad ar ôl i'r Pwyllgor gymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol. Eglurodd hefyd nad oedd dogfennau polisi a llywodraethu statudol sydd i’w cynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol ond sydd wedi’u cymeradwyo eisoes gan y Pwyllgor wedi’u cynnwys yn y fersiwn a anfonwyd at y Pwyllgor, er eu bod ar gael ar wefan y Gronfa. Byddent yn cael eu hychwanegu at yr adroddiad pan fyddai’n cael ei gyhoeddi ar y wefan. 

 

            Atgoffodd y Pwyllgor bod yr Adroddiad Blynyddol yn awr yn cynnwys y Datganiad Cyfrifon i'w gymeradwyo gan y Pwyllgor.

 

            Diolchodd i’r aelodau sydd wedi cysylltu â’r swyddogion gyda mân addasiadau cyn y cyfarfod a chadarnhau y byddent yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad terfynol sy’n cael ei gyhoeddi.

 

            Eglurodd bod yr adroddiad yn ofynnol o dan Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (LGPS) a’u bod wedi dilyn canllawiau Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) wrth ei gynhyrchu. 

 

            Strwythur yr adroddiad oedd bod yr Ymgynghorydd Annibynnol i’r Gronfa a’r Bwrdd Pensiynau wedi cynhyrchu adroddiadau blynyddol a bod swyddogion ac ymgynghorwyr allweddol hefyd wedi cynhyrchu adroddiadau ar gyfer eu meysydd o arbenigaeth.  Roedd yr adroddiadau hyn  yn ffurfio darnau unigol o’r adroddiad.  Eglurodd Cyfrifydd y Gronfa Bensiynau beth oedd yn cael ei drin ym mhob un rhan.

 

            O ran negeseuon allweddol, yn Adroddiad Blynyddol y Gronfa 2017/18, roedd yr heriau mwyaf oedd yn wynebu'r Gronfa yn 2018/19 wedi'u nodi, ac mae adroddiad 2018/19 yn egluro'r cynnydd yn erbyn pob un o’r rhain.   Yn benodol, mae'r Gronfa yn parhau i dderbyn enillion buddsoddiad positif ac wedi diogelu rhai enillion buddsoddiad yn sgil heriau'r farchnad; wedi trosglwyddo rhai asedau i Bartneriaeth Pensiynau Cymru (WPP) a bydd yn parhau i wneud hynny yn ystod 2019/20; wedi mesur effaith gymdeithasol y Gronfa ac yn cynllunio i'w wella; ac mae wedi gwneud cynnydd pellach yn erbyn y targedau yn y Strategaeth Weinyddu a’r Strategaeth Gyfathrebu, er bod cynnydd yng ngweithgarwch a chynnydd yng nghymhlethdod y Gronfa yn golygu bod heriau i'w diwallu o hyd, a fydd yn cael ei helpu'n rhannol drwy'r defnydd o adnoddau ychwanegol.

 

            Nododd yr adroddiad yr heriau mawr ar gyfer 2019/20.  Y rhain oedd adolygu Strategaeth Gyllid y Gronfa yn sgil prisiad 2019; ac adolygu Strategaeth Fuddsoddi'r Gronfa; i barhau i drosglwyddo asedau i'r WPP; datblygu gwaith y timau Gweinyddu a Chyfathrebu ymhellach; gweithredu unrhyw newidiadau sy'n ofynnol i'r cynllun; ac ystyried unrhyw welliannau sy'n deillio o ymgynghoriad LGPS ar Lywodraethu Da, y disgwylir adroddiad amdano yn 2019/20. 

 

            Roedd y tair rhan o’r adroddiad oedd yn weddill yn trafod gweithgarwch ariannol yn ystod 2018/19.  Adran 7 oedd y Datganiad Cyfrifon, y fersiwn drafft a gymeradwywyd gan Drysorydd y Gronfa a’i gyflwyno i Bwyllgor y Gronfa Bensiynau ym mis Mehefin 2019. Yr unig fater  ...  view the full Cofnodion text for item 31