Mater - cyfarfodydd

Update on Minerals and Waste Planning Shared Service

Cyfarfod: 12/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 39)

Diweddariad ar y Gwasanaeth Mwynau a Chynllunio Gwastraff a Rennir

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y Gwasanaeth Mwynau a Chynllunio Gwastraff a Rennir

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Cabinet dros Gynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y Gwasanaeth Mwynau a Chynllunio Gwastraff a Rennir.   Dywedodd fod y swyddogaeth mwynau a chynllunio gwastraff yn gweithio fel gwasanaeth ar y cyd ar draws Gogledd Cymru.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi diben a swyddogaeth y gwasanaeth ac yn egluro’r cynigion llywodraethu a chyllido ar gyfer parhad y gwasanaeth.   

 

            Rhoddodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) wybodaeth gefndir a chyd-destun a gwahoddodd yr Arweinydd Tîm Mwynau i gyflwyno’r prif ystyriaethau fel y manylwyd yn yr adroddiad.    

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sean Bibby yr argymhelliad yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi diben, trefniadau cyllid a llywodraethu ar gyfer

parhau i gefnogi Gwasanaeth Mwynau a Chynllunio Gwastraff a Rennir.