Mater - cyfarfodydd

Contaminated Land Report

Cyfarfod: 12/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 36)

36 Adroddiad Tir Halogedig pdf icon PDF 122 KB

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau ar yr asesiad o safleoedd tir halogedig ac yn dilyn y gwaith adfer.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o’r Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad i roi diweddariad i’r Pwyllgor ar asesiad o safleoedd tir halogedig ac yn dilyn gwaith adferiad   Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod Strategaeth Archwilio Tir Halogedig yr Awdurdod wedi’i ddiweddaru  yn 2019 i adlewyrchu cyflwyno deddfwriaeth a chanllawiau newydd sy’n effeithio ar bolisïau corfforaethol ehangach a sut y dylid ystyried halogiad tir.  Mae’r adroddiad yn cynnwys y gwaith a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn ariannol 2018-19 ac mae’n crynhoi’r nifer a math sylweddol o safleoedd a aseswyd o ganlyniad i Ran 2A.  

 

 Dywedodd y Rheolwr Diogelu’r Gymuned a Busnes fod gan yr Awdurdod ddyletswydd statudol i nodi ac asesu unrhyw dir o fewn Sir y Fflint y gall halogiad effeithio arno a sicrhau adferiad tir halogedig yn unol â Rhan 2A o’r Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.  Eglurodd fod cynnydd sylweddol wedi’i wneud mewn perthynas â’r Strategaeth Archwilio Tir halogedig ac roedd crynodeb o gamau Rhan 2A yn yr atodiad gyda’r adroddiad.   

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gan y Cynghorydd Paul Shotton yngl?n â goblygiadau adnoddau, dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Economi a’r Amgylchedd) fod gan yr Awdurdod gyllideb refeniw blynyddol i gyllido’r asesiadau a gynhelir o fewn y Gyllideb Rheoli Llygredd.  Roedd cyllid cyfalaf hefyd wedi’i osod ar wahân i’r rhaglen gyfalaf i ariannu costau unrhyw waith adferiad angenrheidiol ar unrhyw safle ble roedd angen gwneud gwaith o’r fath.    Roedd arian cyfalaf £1miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18 a gwahoddwyd ceisiadau cystadleuol am arian gan awdurdodau lleol yng Nghymru.    Roedd yr Awdurdod wedi cyflwyno pedwar cais a dyfarnwyd £221,268.00.  Byddai ceisiadau am arian yn parhau wrth i fwy o arian ddod ar gael gan Lywodraeth Cymru.    

 

            Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau roi’r pryderon penodol a godwyd yngl?n â materion tir halogedig yn eu Ward yn ysgrifenedig i’r Prif Swyddog (Cynllunio, Economi a’r Amgylchedd) ar gyfer ymateb manwl a chopi i’r Cadeirydd.   

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sean Bibby yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y cynnydd a wnaed yn mynd i’r afael â thir halogedig hanesyddol yn cael ei nodi; a

 

(b)       Bod cynnydd Strategaeth Archwilio Tir Halogedig Cyngor Sir y Fflint yn cael ei gefnogi.