Mater - cyfarfodydd

Greenfield Valley - Six monthly progress report

Cyfarfod: 15/10/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 26)

26 Ddyffryn Maes Glas - Adroddiad Cynnydd bob Chwe Mis pdf icon PDF 119 KB

Pwrpas:        Diweddariad 6 mis ar y gwaith a gyflawnwyd i ddarparu argymhellion yr archwiliad a’r sefyllfa weithredol bresennol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) adroddiad cynnydd chwe mis am Ddyffryn Maes Glas a chadarnhaodd bod y Cytundeb Rheoli wedi cael ei gytuno rhwng Cyngor Sir y Fflint ac Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas ym mis Awst.  Rhoddodd wahoddiad i’r Rheolwr yr Amgylchedd Naturiol a Mynediad i gyflwyno’r adroddiad.

 

                        Cyflwynodd Rheolwr yr Amgylchedd Naturiol a Mynediad y pwyntiau allweddol o’r 6 mis diwethaf am y gwaith a gynhaliwyd yn Nyffryn Maes Glas. Sef:

 

·                Rheoli’r Safle

·                Cronfa Dreftadaeth Y Loteri

·                Llwybr Teithio Llesol

·                Gwirfoddoli

·                Larwm Tân / Gwaith trydanol

·                Asesiad Iechyd a Diogelwch

·                Y Faner Werdd

 

Yna, dangosodd Swyddog Ymwybyddiaeth Mynediad a Chefn Gwlad fideo byr o’r parc a rhoddodd adroddiad am y cynnydd cadarnhaol yr oedd Dyffryn Maes Glas wedi’i gael drwy’r elfennau a ganlyn:

 

·                Gwaith Hyrwyddo

·                Y Cyfryngau Cymdeithasol

·                Digwyddiadau

 

                        Croesawodd Gadeirydd Ymddiriedolaeth Dyffryn Maes Glas y berthynas gadarnhaol newydd rhwng y ddau sefydliad a chanmolodd y tîm am eu gwaith caled dros y misoedd diwethaf. Roedd hi’n cyfaddef y gallai pethau fynd o’i le ond gyda gwaith tîm gwych, roedd posib datrys problemau’n sydyn iawn ac roedd pethau’n dechrau symud yn eu blaen bellach.

 

                        Cododd y Cynghorydd Johnson bryder am dipio anghyfreithlon a chytunodd y Swyddog Ymwybyddiaeth Mynediad a Chefn Gwlad i roi gwybodaeth ar Facebook, ynghyd â’r fideo a ddangoswyd yn y Pwyllgor.

 

                        Cwestiynodd Owen Thomas o lle oedden nhw’n cael eu trydan, o gofio faint o dd?r sy’n llifo ger y Parc.Cadarnhaodd Rheolwr yr Amgylchedd Naturiol a Mynediad nad oedd y rhan trydan wedi’i orffen eto ond nad oedd yr olwyn dd?r yn gweithio eto. Cadarnhaodd bod gwaith ar y gweill gyda'r prosiect ac roedd hyn yn cael blaenoriaeth.

 

                        Roedd yr Aelodau’n canmol yr hyn oedd wedi cael ei wneud yn y 6 mis diwethaf ac roedden nhw eisiau iddyn barhau i hyrwyddo’r Ganolfan Treftadaeth drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Ychwanegodd y Cynghorydd Shotton y gallai fod o fantais i gysylltu â gwestai a meysydd carafanau lleol hefyd. Wrth ymateb i hyn, cadarnhaodd y Swyddog Ymwybyddiaeth Mynediad a Chefn Gwlad bod taflenni eisoes wedi cael eu rhoi i westai a meysydd carafanau lleol ac roedd llawer yn ymweld â’r Ganolfan – rhai cyn belled i ffwrdd â Birmingham.

 

                        Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Paul Shotton ac eiliwyd gan y Cynghorydd Joe Johnson.

 

            PENDERFYNWYD:

 

            Nodi cynnwys yr adroddiad a’r cynnydd cadarnhaol sydd wedi cael ei gyflawni yn Nyffryn Maes Glas.