Mater - cyfarfodydd
Adaptations to Foster Carers Homes Policy
Cyfarfod: 19/11/2019 - Cabinet (eitem 96)
96 Newidiadau i Bolisi Cartrefi Gofalwyr Maeth PDF 283 KB
Pwrpas: I dderbyn sylwadau a chefnogaeth y Cabinet ar gyfer gwneud newidiadau i’r Polisi Cartrefi Gofalwyr Maeth.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Adaptations to Foster Carers Homes Policy, eitem 96 PDF 349 KB
- Enc. 2 for Adaptations to Foster Carers Homes Policy, eitem 96 PDF 389 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones adroddiad ynghylch y Polisi Newidiadau i Gartrefi Gofalwyr Maeth a oedd yn esbonio fod Gwasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint yn cydnabod, mewn rhai amgylchiadau, gallai amgylchedd o fewn cartrefi gofalwyr maeth gyfyngu’r cyfleoedd o ran lleoli. Roedd hyn yn benodol wir o ran cefnogi grwpiau o frodyr a chwiorydd neu blant ag anableddau.
Cynigiwyd cyflwyno’r Polisi Newidiadau i Gartrefi Gofalwyr Maeth i roi mwy o ddewis i Sir y Fflint, ac i’r plant yr oedd y Sir yn gyfrifol amdanynt, o ran lleoliadau a allai gynnig gwell gwerth am arian i’r awdurdod.
Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y polisi yn ceisio cyflwyno cynllun grant, a oedd yn cynnig cymorth ariannol i ofalwyr maeth allu gwneud newidiadau i’w cartrefi presennol, neu gymorth ariannol er mwyn prynu eiddo mwy neu eiddo a oedd yn fwy addas, hyd at £36,000 i wneud newidiadau, neu £20,000 os oedd y gofalwyr maeth am symud i eiddo newydd.
Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Aelod Cabinet a’r swyddogion am yr adroddiad a fyddai’n darparu cymorth amhrisiadwy i ofalwyr maeth a oedd yn darparu cartrefi croesawgar a gofal a oedd yn newid bywydau plant.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi’r Polisi Newidiadau i Gartrefi Gofalwyr Maeth.