Mater - cyfarfodydd

Disabled Facilities Grant Policy

Cyfarfod: 22/10/2019 - Cabinet (eitem 75)

75 Polisi Grant Cyfleusterau i’r Anabl pdf icon PDF 276 KB

Pwrpas:        I’r Cabinet fabwysiadu’r polisi.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad ar y Polisi Grant Cyfleusterau i’r Anabl ac esboniodd, fel rhan o adolygiad Archwilio Mewnol o’r gwasanaeth Grant Cyfleusterau i’r  Anabl ym mis Mehefin 2018, nodwyd bod ar y polisi cyfredol angen ei adolygu er mwyn gwneud y broses a’r manylion yn gliriach ac yn haws i’w deall.

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod yr adolygiad wedi nodi bod y polisi blaenorol, a oedd yn cynnwys y broses Grant Cyfleusterau i’r Anabl, wedi dod i ben ac nid oedd yn alinio ag arferion presennol o ran gweithrediad o fewn y gwasanaethau. Roedd yn aneglur pa brosesau a meini prawf oedd eu hangen er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y grant.

 

Roedd gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i fynd i’r afael a gweithredu’r argymhellion o fewn yr adroddiad ac i adolygu darpariaeth gwasanaeth er mwyn gwneud gwelliannau. Roedd cryn dipyn o waith hefyd wedi’i wneud i sicrhau bod cwsmeriaid, a’r gweithwyr proffesiynol a oedd yn eu cefnogi, â’r holl wybodaeth berthnasol cyn gynted â phosibl. Darparodd sicrwydd y byddai gwelliant sylweddol i ddarpariaeth Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl a fyddai’n amlwg yn y cyfnodau adrodd i ddod.

 

PENDERFYNWYD:

           

Cefnogi’r polisi diwygiedig.