Mater - cyfarfodydd

Independent Affordable Housing Supply Review

Cyfarfod: 17/03/2020 - Cabinet (eitem 163)

163 Adolygiad Annibynnol o’r Cyflenwad Tai Fforddiadwy pdf icon PDF 102 KB

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ar yr Adolygiad Annibynnol o’r Cyflenwad Tai Fforddiadwy a goblygiadau posibl yr argymhellion, a wnaed gan banel annibynnol, ar y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes ddiweddariad ar y cynnydd gydag argymhellion yr adolygiad annibynnol o Gyflenwad Tai Fforddiadwy yng Nghymru a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC).  Atodwyd ymatebion LlC ac amserlenni i'r argymhellion i'r adroddiad ochr yn ochr â chamau a gymerwyd gan y Cyngor yn lleol a rhanbarthol gyda phartneriaid strategol i wella trefniadau darpariaeth tai fforddiadwy.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod y panel annibynnol wedi cytuno ar y diffiniad o dai fforddiadwy yng nghyd-destun Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 2 a oedd yn cynnwys ystod o fodelau tai fel cynlluniau rhannu ecwiti, Cymorth i Brynu a Rhentu i Berchnogi.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at y cyllid grant a gafwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig nad oedd yn berthnasol i gynghorau. Dywedodd y Prif Swyddog fod hyn wedi arwain at y Cyngor yn cymryd agwedd fwy arloesol tuag at ei raglen adeiladu tai. Mewn ymateb i gwestiynau pellach, rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn Garden City, lle roedd y cynllun adeiladu modiwlaidd cyntaf yn Sir y Fflint yn cael ei ddatblygu. Wrth gydnabod effaith ariannol gosod paneli solar ar dai, talodd deyrnged i waith y tîm Ynni.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Banks, rhoddodd y Prif Swyddog eglurhad ar waith sy'n cael ei wneud gan LlC ar argymhellion Tir y Sector Cyhoeddus yn yr adroddiad.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Hughes a'i eilio gan y Cynghorydd Thomas.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr argymhellion atodedig o'r adolygiad a sylwadau'r Gweinidog yn cael eu nodi, ac y dylid derbyn diweddariadau pellach wrth i oblygiadau'r camau gweithredu a argymhellir gael eu datblygu ymhellach.