Mater - cyfarfodydd

Regional Technical Statement for Aggregates Second Review Consultation

Cyfarfod: 19/11/2019 - Cabinet (eitem 97)

97 Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Ymgynghoriad Ail Adroddiad Agregiadau pdf icon PDF 223 KB

Pwrpas:        Aelodau i nodi’r Ymateb i’r Ymgynghoriad ac Ardystiad y Ddogfen sy’n Cyfeirio at Ddarpariaeth Agregiadau ym Mholisi'r Cynllun Datblygu Lleol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell adroddiad ynghylch y Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Ymgynghoriad Ail Adroddiad Agregau, a oedd yn ddogfen a baratowyd ar ran Llywodraeth Cymru a Grwpiau Gwaith Agregau Rhanbarthol, ac roedd yn ofyniad o Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1: Agregau -  Polisi Cynllunio Cymru.

 

                        Pwrpas y Datganiad Technegol Rhanbarthol oedd asesu’r galw am agregau adeiladu yn y dyfodol a gwneud argymhellion i awdurdodau lleol i ddarparu ar gyfer hyn yn y Cynlluniau Datblygu Lleol i sicrhau diogelwch hirdymor y cyflenwad i fodloni’r galw a ragwelir yn y dyfodol.

 

                        Ychwanegodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) fod y Datganiad Technegol Rhanbarthol yn nodi rhaniadau o faint o agregau adeiladu (cerrig wedi’u torri, tywod a cherrig mân) oedd rhaid cynllunio ar eu cyfer yn y Cynlluniau Datblygu Lleol er mwyn sicrhau bod modd cynnal cyflenwad dibynadwy i ddiwallu anghenion y sector adeiladu. Roedd y Datganiad Technegol Rhanbarthol yn argymell rhaniad sylweddol o gerrig wedi’u torri a rhaniad llai o dywod a cherrig mân ar gyfer Sir y Fflint, roedd y ddau yn gofyn am ddyraniadau ar gyfer mwynau yn y CDLl ac yn argymell cydweithio rhyng-awdurdod os nad oedd un awdurdod yn gall gwneud darpariaeth o’r fath.

 

                        Bu i’r Gr?p Strategaeth Cynllunio ystyried yr adroddiad cyn ei gyflwyno i’r Cabinet ei gymeradwyo.

 

PENDERFYNWYD:

 

             (a)      Cefnogi Ail Adroddiad Datganiad Technegol Rhanbarthol; a

 

 (b)      Derbyn yr argymhellion a nodir yn y Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer y darpariaethau strategol sy’n ofynnol er mwyn cynllunio ar gyfer darparu agregau adeiladu.