Mater - cyfarfodydd
Waste Strategy Review Consultation
Cyfarfod: 24/09/2019 - Cabinet (eitem 56)
56 Adolygu’r Ymgynghoriad ar y Strategaeth Wastraff PDF 201 KB
Pwrpas: Cymeradwyo’r digwyddiad ymgynghori yngl?n â Strategaeth Wastraff ddiwygiedig y Cyngor.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 and 2 - Waste Strategy Review Consultation, eitem 56 PDF 121 KB
- Appendix 3 - Waste Strategy Review Consultation, eitem 56 PDF 91 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn cynnig bod y Cyngor yn cynnal ymarfer ymgynghori cyhoeddus eang ar ddarpariaeth y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu yn y dyfodol er mwyn deall disgwyliadau a thueddiadau’r preswylwyr yn well, a gosod y cyfeiriad ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn y dyfodol.
Yn 2011, cyflwynodd y Cyngor wasanaeth Casgliad Wythnosol a Reolir a newidiodd y casgliadau gwastraff yn y Sir o sachau du wythnosol a chasgliadau ger y drws cefn i gasgliadau ailgylchu a gwastraff bwyd wythnosol, gyda chasgliadau gwastraff nad oes modd ei ailgylchu bob pythefnos. Bu i’r newid wella perfformiad ailgylchu’r Cyngor yn sylweddol ac oherwydd ymgysylltiad ac ymdrechion y preswylwyr, parhaodd y Cyngor i berfformio’n dda ac fe gadarnhawyd perfformiad ailgylchu o 69.16% ar gyfer 2018/19. Roedd hynny eisoes yn uwch na’r targed o 64% ar gyfer 2019/20 a’r targed sylweddol nesaf fydd 70% yn 2025.
Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod angen dathlu’r perfformiad ailgylchu presennol, ond heb newid gweithredol a pholisi, roedd yn debygol y byddai perfformiad yn sefydlogi ac y byddai unrhyw welliant o ran perfformiad yn y dyfodol yn anodd i’w gyflawni. Er nad oedd y strategaeth wastraff bresennol yn dod i ben tan 2025, roedd y targed a osodwyd o fewn y ddogfen o 70% bron â’i gyflawni ac roedd yn bwysig bod y Cyngor yn dechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol, gan ystyried beth yn fwy ellid ei wneud i gynyddu cyfraddau ailgylchu yn y dyfodol a lleihau gwastraff gweddilliol.
Byddai’r ymgynghoriad yn ystyried sawl agwedd, yn cynnwys:
· Rhoi gwybod i ddefnyddwyr gwasanaeth am lwyddiant presennol y gwasanaeth;
· Hysbysu defnyddwyr gwasanaeth o’r hyn a ddigwyddodd i’r eitemau ailgylchadwy a gasglwyd;
· Esbonio’r angen i gynnal adolygiad;
· Cael gwybodaeth am dueddiadau ailgylchu cyfredol; a
· Rhoi ystyriaeth i ddewisiadau newid gwasanaeth yn y dyfodol a fyddai’n gwneud y mwyaf o botensial ailgylchu.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Banks, dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r holiaduron ar gael i’w cwblhau ar-lein ond byddai modd cwblhau copi papur ar gais. Roedd llawer o ddigwyddiadau galw heibio cymunedol wedi cael eu trefnu a byddai’r adborth o’r digwyddiadau hynny yn cael ei dderbyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet yn nodi’r perfformiad presennol mewn perthynas ag
ailgylchu ac yn mynegi diolch i’r preswylwyr a’r gweithwyr am eu
perfformiad; a
(b) Bod y Cabinet yn cymeradwyo bwrw ymlaen â’r ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar Strategaeth Wastraff y Cyngor a chyfeiriad y gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn y dyfodol ac annog preswylwyr i ymgysylltu â’r arolwg.