Mater - cyfarfodydd

Arosfa Update

Cyfarfod: 22/10/2019 - Cabinet (eitem 79)

79 Diweddariad ar Arosfa pdf icon PDF 111 KB

Pwrpas:        I roi gwybodaeth ar wasanaeth ychwanegol i ddarparu mwy o lety i bobl ifanc gydag anghenion cymhleth fel dewis arall ar wahân i leoliad y tu allan i'r sir.   Bydd cyllid Refeniw'r Gronfa Gofal Integredig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer 2 ystafell wely ychwanegol ar sail tymor byr a hir a bydd yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar y cynnydd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad ar yr Wybodaeth Ddiweddaraf am Arosfa a oedd yn amlinellu cynlluniau i adnewyddu adain o’r adeilad nad yw’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd er mwyn darparu gofod ar gyfer dau wely ychwanegol ar y safle. 

 

Roedd Arosfa yn wasanaeth sefydledig yn darparu arosiadau byr / seibiant i blant ag anableddau. Byddai’r ddau wely ychwanegol yn caniatáu i’r gwasanaeth ddarparu ar gyfer dau breswylydd hirdymor, parhaol a darparu gwasanaeth lleol o safon yn hytrach na lleoliadau tu allan i’r sir. Byddai hyn yn ychwanegol i’r ddarpariaeth arhosiad byr, seibiant presennol ar gyfer hyd at 3 o blant.

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y byddai’r cynlluniau, gyda’i gilydd, yn galluogi’r Cyngor i gefnogi uchafswm o bump o blant ar unrhyw adeg a byddai’n darparu gwasanaeth lleol, cost effeithiol a safonol ac yn opsiwn amgen i leoliadau tu hwnt i’r sir.

 

Y goblygiad o ran refeniw oedd £200k y flwyddyn a fyddai’n cael ei ariannu’n llwyr gan y Gronfa Gofal Canolraddol. Yr isafswm cost flynyddol ar gyfer lleoliad y tu allan i'r sir oedd £182k gyda sawl lleoliad yn costio mwy na hynny.Byddai cefnogi dau berson ifanc drwy’r farchnad agored felly yn costio isafswm o £364k y flwyddyn felly roedd hyn yn arbed arian i’r Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:

 

            Cefnogi’r cynllun adnewyddu.