Mater - cyfarfodydd

Flintshire Food Enterprise and the Food Poverty Response

Cyfarfod: 09/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 25)

25 Menter Bwyd Sir y Fflint ac Ymateb i'r Tlodi Bwyd pdf icon PDF 238 KB

Pwrpas:        Cyflwyno a cheisio barn ar y cynnig am fodel Menter Gymdeithasol newydd er mwyn helpu i leihau tlodi bwyd yn y Sir.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog yr adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth ar ddatblygu’r fenter bwyd ac ymateb i dlodi bwyd.  Roedd y prosiect wedi datblygu o’r ymgyrch llwgu yn ystod gwyliau i bartneriaeth gyda Clwyd Alyn, Can Cook a Chyngor Sir y Fflint i ffurfio menter gymdeithasol.  Cyfeiriodd yr Aelodau at adran 1.09 o’r adroddiad oedd yn cynnwys amcanion y fenter gymdeithasol ac y byddai’r model pryd ar glud hefyd yn darparu agwedd gymdeithasol i’r cymunedau yn arbennig ardaloedd gwledig lle na fyddai gan drigolion lawer o gyswllt cymdeithasol a rhyngweithio o ddydd i ddydd.  Yna rhoddodd wybodaeth ar y gwasanaethau darparu bwyd gofal cartref gan ddweud mai’r nod oedd symud o’r cymorth bwyd i brynu bwyd i grwpiau bregus fyddai yn ei dro yn cefnogi pobl mewn cymunedau ac yn mynd i’r afael ag unigrwydd.  Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 27 pwynt 1.11 yn yr adroddiad oedd yn amlinellu’r buddsoddiad cychwynnol gyda Sir y Fflint yn anelu i adeiladu a datblygu cegin cynhyrchu ar gyfer darparu bwyd i gymunedau a chymdeithasau tai.    

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jones am eglurhad ar rai brawddegau yn yr adroddiad:-

 

·                Ar dudalen 26 ym mhwynt 1.01 “nid oes gan bobl fynediad i fwyd ffres da o ddewis” a gofynnodd at beth oedd hyn yn cyfeirio.  Mewn ymateb, eglurodd y Prif Swyddog fod yna bobl yn defnyddio banciau bwyd ac er eu bod yn darparu gwasanaeth ardderchog nid oeddent yn darparu bwyd ffres da.  Roedd yn ôl dewis yn golygu nad oedd ganddynt unrhyw le arall i fynd.  Ychwanegodd y Rheolwr Budd-daliadau bod yna faterion gyda phobl yn methu cael bwyd ffres da yn arbennig mewn ardaloedd gwledig.  Ychwanegodd fod gan bawb, beth bynnag eu cefndir, yr hawl i gael bwyd ffres da.  Awgrymodd y Cynghorydd Jones y dylid ei newid i “efallai yn ôl amgylchiadau.”

·                Yna cyfeiriodd at y paragraff nesaf “ar gyfer pob £1 sy’n cael ei wario ar fwyd roedd 37c yn cael ei ychwanegu ar gyfer clefydau sy’n ymwneud â diet ac angen triniaeth yn ddiweddarach” a gofynnodd am eglurhad.  Mewn ymateb, eglurodd y Rheolwr Budd-daliadau bod hwn wedi’i dynnu o  ddarn o ymchwil a gynhaliwyd gan weithwyr iechyd proffesiynol yn edrych ar effaith ehangach ar y gwasanaeth iechyd oherwydd salwch cysylltiedig â deiet.  Roedd y sylw wedi’i wneud o ganlyniad i ddeietau gwael neu pobl ddim yn cael digon i’w fwyta yna byddai angen 37c o bob £1 i drin y bobl hynny.  Dywedodd y Cynghorydd Jones fod y 37c yr hyn yr oedd yn rhaid i gymdeithas ei dalu i ddigolledu’r dewisiadau hynny a wnaed mewn blynyddoedd cynharach.   

 

            Dywedodd yr Aelod Cabinet Strydwedd a Chefn Gwlad bod y mesurau hyn yn bwysig yn arbennig wrth ymgeisio am arian ac amlinellodd y gwaith a wnaed gan awdurdodau lleol a’r Gwasanaeth Iechyd o ran ataliad.  Ychwanegodd yr Aelod Cabinet Rheoli Corfforaethol ac Asedau fod hon yn fenter wych yn arbennig i’r sawl oedd yn byw mewn ardaloedd gwledig a fyddai nid yn unig yn cael pryd o fwyd llawn maeth ond cyswllt gyda  ...  view the full Cofnodion text for item 25