Mater - cyfarfodydd
Strategic Equality Plan Annual Report 2018/19
Cyfarfod: 22/10/2019 - Cabinet (eitem 71)
71 Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb Strategol 2018/19 PDF 211 KB
Pwrpas: Cadarnhau’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2018/19.
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Strategic Equality Annual Report 2018/19, eitem 71 PDF 463 KB
- Enc. 2 for Strategic Equality Annual Report 2018/19, eitem 71 PDF 2 MB
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2018/19, yn cynnwys yr Adroddiad Cynnydd Perfformiad.
Esboniodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol y byddai’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol presennol yn dod i ben ym mis Mawrth 2020 a byddai Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd yn cael ei lunio ar gyfer 2020/24.
Amlygwyd manylion o feysydd o gyflawniad mewn perthynas â chwrdd â dyletswyddau cydraddoldeb yn ystod 2018/19 yn yr adroddiad. Er fod meysydd cadarnhaol o gynnydd, roedd rhai materion angen gwella o hyd a manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Cabinet wedi eu sicrhau y gwnaethpwyd cynnydd ar hyd y flwyddyn o ran cyflawni ein dyletswyddau statudol; a
(b) Chefnogi’r cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2018/19, cyn cyhoeddi’r adroddiad blynyddol ar wefan y Cyngor.