Mater - cyfarfodydd
Funding Strategy Statement
Cyfarfod: 04/09/2019 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd (eitem 21)
21 Datganiad Strategaeth Cyllido PDF 209 KB
Cyflwyno’r Datganiad Strategaeth Cyllid drafft i Aelodau’r Pwyllgor ei ystyried, adolygu a’i gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad gyda Chyflogwyr.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd Mr Middleman y ffactorau allweddol i’w hystyried wrth ddatblygu strategaeth gyllido.
Pwysleisiodd bwysigrwydd y Datganiad Strategaeth Cyllido fel rhan o’r Gwerthusiad Actiwaraidd gan ei fod yn cydbwyso nifer o risgiau allweddol.
Esboniodd Mr Middleman mai
“cynllun” y Gronfa yn sylfaenol yw sicrhau bod ganddi
ddigon o arian i dalu buddion aelodau pan fyddant yn ymddeol cyhyd
â'u bod yn byw. Ariennir hyn trwy gyfraniadau cyflogwyr a
gweithwyr, ac adenillion buddsoddiad, felly'r balans rhwng y ddwy
elfen yw'r hyn y mae'r FSS yn ei bennu. Yr agwedd dyngedfennol
arall yw cyfamod cyflogwr. Cyfamod cyflogwr yw'r gallu a'r
parodrwydd y gall cyflogwr dalu’r cyfraniadau yr ydym yn
gofyn amdanynt. Mae hyn hefyd yn effeithio ar lefel ac amseriad y
cyfraniadau y byddech chi'n gofyn amdanynt gan wahanol fathau o
gyflogwyr. Er enghraifft, byddai disgwyl i Gyngor allu ariannu ei
rwymedigaethau pensiwn dros gyfnod hirach gyda mwy o sicrwydd na
chyflogwr, dyweder, sy'n ddibynnol ar ffrydiau cyllido penodol.
Felly, mae'n rhaid i'r strategaeth ariannu ystyried y gwahaniaethau
hyn.
Nododd Mr Middleman bwyntiau allweddol am y newidiadau tybiaeth
arfaethedig ar y Datganiad Strategaeth Cyllido a oedd wedi'u
cynnwys yn y cyflwyniad ar wahân. Y newidiadau allweddol
oedd:
· Gostyngiad yn y gyfradd ddisgownt/ rhagolwg enillion o'i gymharu â chwyddiant CPI.
· Newid yn y rhagdybiaeth disgwyliad oes gan arwain at ostyngiad mewn disgwyliad oes ar gyfer y Gronfa.
· Newid yn y twf cyflog tymor byr i isafswm o 2% y.f. am 4 blynedd hyd at 2023.
· Gostyngiad cyfartalog o 3 blynedd yn y cyfnod adfer i dargedu'r un cyfnod at gyllid llawn.
Holodd Mrs McWilliam pam fod
yna ddwy ragdybiaeth cyfradd ddisgownt wahanol; un ar gyfer y
gorffennol a'r dyfodol. Cadarnhaodd Mr Middleman fod dwy elfen ar
gyfer gosod cyfraniadau. Mae gwasanaeth yn y gorffennol yn edrych
ar y diffyg sy'n ymwneud â'r buddion a enillwyd eisoes. Mae
gwasanaeth yn y dyfodol yn seiliedig ar aelodau sydd yn y Gronfa yn
parhau i ennill buddion, ac mae gan y rhain amserlen lawer hirach i
ennill enillion na'r rhwymedigaethau sydd wedi'u cronni eisoes gan
fod hyn yn cynnwys pensiynau sy'n cael eu talu eisoes.
Yn ail, gofynnodd Mrs McWilliam am y cyhoeddiad diweddar ynghylch
uno RPI a CPI. Dywedodd Mr Middleman na fyddai'r cyhoeddiad yn
effeithio ar y sefyllfa brisio gan fod hyn wedi'i bennu cyn y
cyhoeddiad felly mae asedau a rhwymedigaethau'n cael eu mesur yn
gyson. Yn yr un modd, nid yw'n hollol sicr y bydd y newid yn
digwydd (er yn debygol) a sut y bydd yn amlygu ei hun. Felly,
argymhellodd Mr Middleman na ddylid newid y paramedrau yn y prisiad
hwn ond bydd angen ystyried y mater hwn wrth symud ymlaen. Fodd
bynnag, roedd ymateb gan y farchnad i'r cyhoeddiad a fyddai angen
ei ystyried yng nghyd-destun y strategaeth llwybr hedfan a rheoli
risg a fabwysiadwyd. Adroddir am unrhyw effaith yng nghyfarfodydd
Pwyllgor yn y dyfodol lle bo hynny'n briodol.
Dywedodd Mr Everett fod hyd yn oed y Cynghorau mewn gwahanol leoedd
o ran fforddiadwyedd felly roedd yn rhaid darparu ...
view the full Cofnodion text for item 21