Mater - cyfarfodydd
Flintshire Food Enterprise and the Food Poverty Response
Cyfarfod: 24/09/2019 - Cabinet (eitem 55)
55 Menter Bwyd Sir y Fflint ac Ymateb i’r Tlodi Bwyd PDF 245 KB
Pwrpas: Gofyn am gymeradwyaeth mewn egwyddor i ffurfio Menter Bwyd Sir y Fflint.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hughes yr adroddiad a’r model busnes ar gyfer y busnes menter gymdeithasol newydd.
Diffiniwyd Tlodi Bwyd fel ‘pobl heb fynediad at fwyd ffres da trwy ddewis’, a chyfeiriwyd at y diffiniad ‘os ydych yn bwydo pobl yn dda, maent yn fwy tebygol o allu dod allan o’u sefyllfa’. Roedd yn hysbys am £1 a oedd yn cael ei gwario ar fwyd wedi’i brosesu, roedd 37c yn cael ei hychwanegu ar gyfer afiechydon yn ymwneud â diet a oedd angen triniaeth yn nes ymlaen.
Penderfynodd y Cyngor Sir, a’i bartneriaid Tai Clwyd Alyn a Can Cook, yn flaenorol i gynnig cefnogaeth i’r rhai oedd yn fwyaf diamddiffyn ac nad oedd ganddynt fynediad i fwyd da, ffres. Yn ystod yr ymgyrch Llwglyd Dros y Gwyliau cynhyrchwyd cyhoeddusrwydd cadarnhaol a dosbarthwyd dros 17,000 o brydau i blant yng nghymunedau’r Sir a fyddai fel arall wedi bod mewn angen yn ystod y gwyliau. Oherwydd llwyddiant yr ymgyrch yn 2018, ailadroddwyd yr ymgyrch ac roedd yr ymateb yn llawer mwy yn 2019.
Ers hynny, roedd y Cyngor a’i bartneriaid wedi bod yn archwilio nifer o opsiynau a fyddai’n sicrhau datblygu datrysiad cynaliadwy a mwy hirdymor i dlodi bwyd.
Roedd y model busnes, a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad ar ffurf atodiad cyfrinachol, ar gyfer busnes menter gymdeithasol newydd gyda’r tri phartner â hawliau cyfartal dros reoli a darparu’r gweithrediad. Byddai bwyd yn cael ei baratoi yn Sir y Fflint drwy nifer o ganolfannau, gyda phrif ganolfan paratoi bwyd yn ardal Shotton.
Y brif nod fyddai cyrraedd a datblygu modelau cynaliadwy er mwyn i bobl gael mynediad i fwyd da, fforddiadwy a ffres, yn arbennig drwy gysylltu â'r gwaith y mae’r Cyngor yn ei wneud a'r gwasanaethau a ddarperir fel:
· Gofal cartref a chysylltu darpariaeth bwyd gyda gwasanaethau gofal;
· Datblygu rhaglen drawsnewid o gymorth bwyd i brynu bwyd ar gyfer grwpiau diamddiffyn, e.e. teuluoedd digartref;
· Cysylltu â gwasanaethau sy’n cefnogi trigolion ac yn mewnoli cefnogaeth o amgylch darpariaeth bwyd yn y gwasanaethau hynny; a
· Defnyddio darpariaeth bwyd fel catalydd i ddechrau mynd i’r afael ag unigedd ac ynysu
Croesawodd yr Aelodau’r adroddiad gan ddweud ei fod yn alinio â Chynllun y Cyngor a bod yn Gyngor Gofalgar.
Diolchodd y Prif Weithredwr i’r holl Swyddogion a oedd yn rhan o’r prosiect a fyddai o gymorth wrth ymdrin â materion cymdeithasol; roedd y Cyngor yn awyddus i symud ymlaen â’r prosiect cyn gynted â phosib.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi a chymeradwyo’r cynnig am fodel Menter Gymdeithasol newydd a fydd yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at leihau tlodi bwyd yn y Cyngor; a
(b) Rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Prif Weithredwr, ar y cyd ag Arweinydd y Cyngor, i gymeradwyo’r cynllun busnes, contractau a dogfennau cyfreithiol.