Mater - cyfarfodydd

Statement of Accounts 2018/19 and Supplementary Financial Information to Statement of Accounts 2018/19

Cyfarfod: 11/09/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 38)

38 Datganiad Cyfrifon 2018/19 a'r Wybodaeth Ariannol Atodol i'r Datganiad Cyfrifon 2018/19 pdf icon PDF 162 KB

Pwrpas:Cyflwyno fersiwn derfynol o Ddatganiad Cyfrifon 2018/19 i’r Cyngor ar gyfer cymeradwyaeth a nodi’r wybodaeth ariannol atodol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Richard Harries a Mike Whiteley o Swyddfa Archwilio Cymru, a Liz Thomas, Rheolwr Cyllid Strategol, Cyllid Corfforaethol.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod fersiwn terfynol Datganiad Cyfrifon 2018/19 yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo yn dilyn ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio cyn cyfarfod y Cyngor Sir heddiw. Eglurodd fod Datganiad Cyfrifon                         2018/19, sy’n ymgorffori’r diwygiadau hynny a gytunwyd gyda Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn ystod yr archwiliad, sydd i’w cymeradwyo gan yr Aelodau, wedi’i atodi fel atodiad 1 i’r adroddiad. Roedd cyflwyniad SAC, mewn perthynas â’r archwiliad o Ddatganiad Cyfrifon 2018/19 wedi’i atodi fel atodiad 2. Yn ystod yr archwiliad, gwnaed diwygiadau i’r Datganiad Cyfrifon 2018/19 drafft a oedd wedi’u cytuno â SAC, ac mae’r rhai sy’n cael eu hadrodd o dan ISA 260 yn cael eu dangos yn atodiad 3. Atodwyd Llythyr Sylwadau Cyngor Sir y Fflint at SAC yn atodiad 4. Yn atodiad 5, atodwyd gwybodaeth ychwanegol i Ddatganiad Cyfrifon 2018/19 ar gyflog cyfwerth ag amser llawn, sydd dros £60,000, fel y ceisiwyd drwy rybudd o gynnig a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 29 Ionawr 2013.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd unrhyw ddiwygiadau i’r adroddiad i’r Cyngor yn dilyn ystyried y Datganiad Cyfrifon a chanfyddiadau SAC gan y Pwyllgor Archwilio yn y cyfarfod a gynhaliwyd cyn cyfarfod y Cyngor heddiw. Roedd nodyn ar gwestiynau blaenorol a godwyd gan Aelodau a’r ymatebion a ddarparwyd wedi ei gylchredeg i Aelodau, a bu cyfle drwy gydol yr haf i Aelodau godi unrhyw faterion neu gwestiynau pellach. Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau ychwanegol.

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod canfyddiadau cyffredinol SAC yn gadarnhaol ac yn adeiladu ar y gwelliannau a gyflawnwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Daeth SAC i’r casgliad bod y datganiadau cyllidol wedi’u llunio i safon dda a’u bod yn cael eu hategu gan bapurau gweithio cynhwysfawr. Nid oedd unrhyw gamddatganiadau nas cywirwyd. Yr unig fater a gododd o’r archwiliad oedd hynny ynghylch y broses ar gyfer prisio asedau, ac fe gafodd y camau a gynlluniwyd i fynd i’r afael â hyn, ar y cyd â SAC, eu derbyn gan y Pwyllgor Archwilio yn y cyfarfod a gynhaliwyd yn gynharach heddiw.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai dyddiad cau statudol cynharach ar gyfer y cyfrifon o 2020-21 ar gyfer cyflwyno’r datganiadau ariannol blynyddol drafft. Ar y cyd â SAC, byddai’r Cyngor yn ymgymryd ag ymarfer yn 2019-20 ar gyfer llunio ei ddatganiadau ariannol drafft erbyn 31 Mai 2020 gyda SAC yn dod i gasgliad ar 31 Gorffennaf 2020.

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod un diwygiad perthnasol ynghylch pensiynau’n codi o’r Archwiliad a’i fod yn ganlyniad i fater cenedlaethol o’r enw dyfarniad achos cyfreithiol ‘McCloud’, a allai effeithio ar bob un o gynlluniau pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus. Eglurodd fod posibilrwydd ar hyn o bryd y bydd cyfraniadau cyflog athrawon yn cael eu heffeithio yn y dyfodol, ac roedd rhaid i’r Cyngor gyfrif am yr amcangyfrif gorau oherwydd y gwerth. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw effaith ar y pryd ar gyllid y Cyngor, a byddid  ...  view the full Cofnodion text for item 38