Mater - cyfarfodydd
All Wales Concessionary Bus Pass (Renewal of Bus Passes)
Cyfarfod: 24/09/2019 - Cabinet (eitem 62)
62 Pas Bws Consesiynol Cymru Gyfan (Adnewyddu Pasys Bysus) PDF 191 KB
Pwrpas: Rhoi diweddariad i’r Cabinet ar gynigion Llywodraeth Cymru i ddisodli’r pasys bysus presennol ar gyfer defnyddwyr consesiynol.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y broses a’r amserlen ar gyfer y prosiect disodli Cardiau Teithio Rhatach.
Roedd Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn ymgynghori â’r holl fudd-ddeiliaid cenedlaethol a phartneriaid lleol ar eu bwriad i ail-ddosbarthu oddeutu 750,000 o Gardiau Teithio Rhatach ar draws Gymru erbyn diwedd mis Rhagfyr 2019.
Roedd y cardiau newydd hyn eisoes wedi cael eu dosbarthu i bob ymgeisydd newydd ers mis Mehefin 2019, ac fe ddechreuodd y gwaith o ddosbarthu’r cardiau newydd hyn yn genedlaethol yn ddiweddar. Yn dilyn problemau mewn perthynas â phrysurdeb ar wefan Trafnidiaeth Cymru, cynyddwyd capasiti’r wefan ac roedd ar gael i’w defnyddio’r wythnos ganlynol. Byddai modd i breswylwyr gwblhau ceisiadau ar bapur drwy ymweld â Chanolfan Gyswllt.
PENDERFYNWYD:
Nodi’r broses i ailddosbarthu Cardiau Teithio Rhatach i bob preswyliwr cymwys yn Sir y Fflint.