Mater - cyfarfodydd
Aligning Red Book ‘Craft’ Pay to the Council’s Pay Model
Cyfarfod: 24/09/2019 - Cabinet (eitem 65)
Alinio’r Tâl ‘Crefft’ Llyfr Coch â Model Tâl y Cyngor
Pwrpas: Mae’r adroddiad hwn y darparu trosolwg o effaith ail flwyddyn (2019) y cytundeb tâl dwy flynedd y Cydbwyllgor Cenedlaethol (NJC) (2018/19-2019/20) gan ddefnyddio’r model cenedlaethol a chynnig i drosglwyddo’r gweithwyr llyfr coch i’r model tâl newydd.
Dogfennau ychwanegol:
- Restricted enclosure 2 , View reasons restricted (65/2)
- Restricted enclosure 3 , View reasons restricted (65/3)
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad a oedd yn rhoi braslun o’r effaith yn sgil gweithredu’r ail flwyddyn (2019) o gytundeb cyflogau’r Cyd-gyngor Cenedlaethol (2018/19 – 2019/20) ar sail y dull cenedlaethol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi a chroesawu’r cynnydd a wnaed wrth adolygu’r Drefn Gyflogau
i gynnwys gofynion ail flwyddyn y Dyfarniad Cyflog Cenedlaethol; a
(b) Gwahodd y Prif Weithredwr i gwblhau’r trafodaethau â’r Undebau Llafur i gytuno ar drefn gyflogau newydd a gweithredu’r drefn honno, yn rhinwedd ei bwerau dirprwyedig, ar yr amod bod y drefn gyflogau newydd yn bodloni’r meini prawf a nodwyd yn yr adroddiad, yn cynnwys Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb cadarnhaol.