Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 10)

Cyfarfod: 12/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 93)

93 Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 10) pdf icon PDF 72 KB

Adolgyu sefyllfa fonitro’r gyllideb refeniw ddiweddaraf ar gyfer 2019/20 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai (yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd ar fis 10 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid adroddiad ar y sefyllfa o ran monitro’r gyllideb gyfalaf ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ar Fis 10 cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet.  Roedd hwn yn adlewyrchu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol os byddai pethau’n aros yr un fath.

 

Roedd y diffyg gweithredol o £1.625m yn symudiad cadarnhaol o £0.041m o’i gymharu â’r mis blaenorol. Roedd y mesurau a gyflwynwyd i liniaru effaith gyffredinol y gorwariant rhagamcanol wedi cael effaith arwyddocaol a byddai’r gwaith hwn yn parhau gyda meysydd penodol yn cael eu hadolygu yn dactegol fel y nodwyd yn yr adroddiad. Roedd hyn yn cynnwys arian ychwanegol ar gyfer Parc Adfer ac roedd y mater hwn cael sylw ar hyn o bryd. At hyn, roedd posibilrwydd y byddai grantiau hwyr yn cael eu rhoi gan Lywodraeth Cymru i wella’r sefyllfa. Ymhlith y prif amrywiadau roedd gorwariant ar gyfer Lleoliadau y tu allan i’r Sir a Gwasanaethau Stryd a Chludiant mewn cysylltiad â datrys materion yn ymwneud â llifogydd.

 

Ar fater olrhain arbedion effeithlonrwydd arfaethedig y flwyddyn hon, disgwylid y byddai’r sgôr cyflawniad o 91% yn aros yr un fath ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Ar fater Cronfeydd wrth Gefn a Mantolenni, mantolen ragamcanol diwedd y flwyddyn ar gyfer y Cronfeydd wrth Gefn oedd £3.244m.  Tynnwyd sylw unwaith yn rhagor at y risg sylweddol ar lefelau rhagamcanol mantolenni’r ysgolion.

 

Byddai dyraniad cyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi rhwydweithiau TGCh ysgolion yn cael ei ddyrannu yn erbyn y gwariant presennol, gyda chais yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i’r tanwariant fyddai’n deillio o hynny i gael ei gario ymlaen i’r flwyddyn ariannol nesaf.

 

Ar fater y Cyfrif Refeniw Tai, byddai tanwariant rhagamcanol o £0.062m yn gadael mantolen derfynol heb ei chlustnodi o £1.385m, a oedd yn fwy na’r canllawiau a argymhellir ar wariant.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at gost ychwanegol sicrhau diogelwch y Canolfannau Ailgylchu Cartref yn dilyn achosion o fandaliaeth. Roedd yn amau a oedd y cyfleusterau Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) ym Mwcle yn gweithio cyn y digwyddiadau hyn ac roedd yn bosibl bod hyn wedi cyfrannu at y broblem. Dywedodd y Prif Swyddog mai’r camerâu hyn oedd targed cyntaf fandaliaid yn aml iawn a byddai’n gofyn i’r Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant am ymateb.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Heesom am wybodaeth am gostau a’r amserlen ar gyfer trwsio difrod i geblau/pibell ar hyd yr A548.  Cytunodd y Rheolwr Cyllid y byddai’n gofyn am ymateb gan y Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant.

 

Cafodd argymhellion yr adroddiad eu cynnig a’u heilio gan y Cynghorwyr Jones a Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Ar ôl ystyried adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 10), mae’r Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno adrodd amdanynt i’r Pwyllgor.