Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring Report 2019/20 (Month 9) and Capital Programme (Month 9)

Cyfarfod: 13/02/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 83)

83 Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 9) a Rhaglen Gyfalaf (Mis 9) pdf icon PDF 78 KB

Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 9 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn. Darparu gwybodaeth ar Fis 9 y Rhaglen Gyfalaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a Phen Gyfrifydd adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai, a diweddariad ar Raglen Gyfalaf 2019/20 ym Mis 9 cyn i’r Cabinet ei ystyried.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i ostwng pwysau costau a gwella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd - yn ddiffyg gweithredol o £1.666 miliwn.  Roedd y symudiad ffafriol hwn o £0.226 miliwn o Fis 8 yn bennaf oherwydd gostyngiad pellach mewn cyfraniadau pensiwn (a drafodwyd yn gynharach yn y cyfarfod) a ffawdelw TAW o £0.130 miliwn. Roedd gwaith yn parhau i leihau’r sefyllfa gorwario gyffredinol a ragwelwyd erbyn diwedd y flwyddyn, yn cynnwys rhai meysydd penodol a amlygwyd yn yr adroddiad. Gallai’r posibilrwydd o ddyfarniadau grant hwyr hefyd gyfrannu’n gadarnhaol at y sefyllfa diwedd y flwyddyn. Arhoswyd am eglurhad am y cyfraniad o’r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen y gaeaf hwn.

 

Disgwyliwyd i’r gyfradd gyflawni ar arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn aros yn 91%.

 

Fe wnaeth crynodeb o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd adrodd balans clo a ragwelwyd o £9.6 miliwn. Roedd y balans a ragwelwyd ar Gronfa Hapddigwyddiad ar ddiwedd y flwyddyn yn £3.203 miliwn, gan ystyried y gorwariant cyfredol a ragwelwyd yn ystod y cyfnod hwn.

 

O ran safle’r Cyfrif Refeniw Tai a ragwelwyd, roedd gorwariant o £0.103 miliwn gan adael balans heb ei glustnodi o £1.220m ar ddiwedd y flwyddyn, a oedd yn uwch na’r lefel isaf a argymhellwyd.

 

Mynegodd y Cynghorydd Heesom bryderon am y pwysau ar gyllidebau ysgol, yn enwedig ar lefel uwchradd. Dywedodd y Prif Weithredwr fod sefyllfa diffyg dirywiol rhai o’r ysgolion wedi’i adlewyrchu fel risg agored yn adroddiad y gyllideb sydd angen ei ystyried gan y Cyngor, a dangoswyd yr annigonolrwydd o fodel y fformiwla ariannu yn Sir y Fflint.  Siaradodd am y Protocol Diffyg Trwyddedig diwygiedig yn cynnwys cyfres o gamau cadarn a’r effaith ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod yna nifer o ffactorau sy’n cyfrannu, gan arwain at ddiffyg yn sefyllfa’r gyllideb, yn cynnwys yr effaith o ddata amddifadedd disgyblion. Dywedodd fod y mater yn peri gofid mawr a rhoddodd sicrwydd bod y Cyngor yn blaenoriaethu’r rhai hynny sydd angen cefnogaeth.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Roedd newidiadau i’r rhaglen ddiwygiedig o ganlyniad i gyflwyno ffrydiau ariannu grant amrywiol, ail-broffilio benthyca darbodus ar y Rhaglen SHARP ac ail-broffilio’r gyllideb ar y grant Cyfalaf Cynnig Gofal Plant.  Roedd crynodeb o’r sefyllfa am wariant cyfalaf ym Mis 9 yn dangos tanwariant a ragwelir o £4.372 miliwn ar Gronfa'r Cyngor a sefyllfa o fantoli'r gyllideb ar y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Ceisir cymeradwyaeth Cabinet ar gyfer symiau i’w dwyn ymlaen, gan ddod i gyfanswm o £4.034 miliwn ar gyfer y cyfnod 2020/21. Manylwyd ynghylch defnyddio’r grant Ysgogiad Economaidd ar gyfer y cynlluniau a nodwyd a oedd yn yr adroddiad.

 

Dangosodd gyllid o gynlluniau a gymeradwywyd  ...  view the full Cofnodion text for item 83