Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring Reports 2019/20 (Month 8)

Cyfarfod: 16/01/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 74)

74 Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 (Mis 8) pdf icon PDF 75 KB

Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 8 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 8 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.  Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid.

 

Roedd y diffyg gweithredol o £1.892m yn gadarnhaol o’i gymharu â’r £0.301m yn y mis blaenorol. Roedd yr amrywiaeth sylweddol ar y gorwariant o £2.080m ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir, a’r adolygiad parhaus ar yr hawliad gostyngiad Treth Y Cyngor i unigolyn sengl sydd wedi cynhyrchu £0.227m hyd yma. Y gorwariant mwyaf sylweddol oedd ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a Strydwedd a Chludiant, fel yr adroddwyd yn flaenorol i’r Pwyllgor, a roedd unrhyw effeithiau cylchol wedi’u cynnwys yng nghyllideb 2020/21.  Gan edrych ar y sefyllfa, roedd y tîm Prif Swyddog wedi gosod targed i leihau sefyllfa gorwariant i £1.500m-1.750m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Ar y llwybr ôl-rhain arbedion a gynlluniwyd yn y flwyddyn, roedd 91% wedi’u cyflawni a disgwylir i hyn aros yr un fath ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, mae goblygiadau’r Setliad Dros Dro a ddaeth i law ym mis Rhagfyr yn cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd a bydd y canfyddiadau yn cael eu hadrodd i'r Cyngor yn ddiweddarach y mis hwn.

 

O ran y Cronfeydd Wrth Gefn a Balansau, roedd yr amcangyfrif balans diwedd blwyddyn yn y Cronfeydd Wrth Gefn Arian at Raid yn £2.977m.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, roedd gorwariant arfaethedig o £0.131m yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo yn £1.192m, a oedd yn uwch na’r canllawiau argymelledig ar wariant.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr er bod cynnydd wedi’i wneud ar y sefyllfa gorwariant, roedd hyn yn parhau yn bryder oherwydd y newidiadau yn y galw am Leoliadau y Tu Allan i’r Sir.  Er bo gwaith arwyddocaol wedi’i gyflawni i leihau gwariant dianghenraid ar draws y portffolios, roedd cynnydd dda yn cael ei wneud ar leihau costau cludiant ysgol ac adolygiad o’r gostyngiad Treth Y Cyngor person sengl. Nodwyd bod y cyfleoedd ar grantiau penodol yn cael eu harchwilio a'r effaith o amodau tywydd ar y gyllideb cynnal a chadw y gaeaf. Er bod pwysau wedi’u cynnwys yng nghyllideb 2020/21, roedd Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn parhau i fod y broblem fwyaf, er yr effaith gadarnhaol o ddatrysiadau creadigol lleol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn y Cynghorydd Heesom ar falansau ysgol, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y rhagamcan wedi seilio ar ddisgwyliad o’r hysbysiad hwyr o grantiau penodol tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Yn dilyn cwestiwn arall, darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth ar y lefel o adnoddau yn y tîm Archwilio Mewnol.

 

Cododd y Cynghorydd Woolley ei bryderon ar ddyddiad anghywir a nodwyd yn yr adroddiad eglurhaol ac anghysondebau amrywiol yn y ffigurau. Hefyd gofynnodd pa eitemau o wariant dianghenraid oedd wedi’u cyfeirio fel bod effaith y penderfyniadau hynny yn cael eu hystyried. Ar y pwynt olaf, dywedodd  ...  view the full Cofnodion text for item 74