Mater - cyfarfodydd

Annual Performance Report 2018/19

Cyfarfod: 22/10/2019 - Cyngor Sir y Fflint (eitem 50)

50 Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2018/19 pdf icon PDF 237 KB

Pwrpas:        Mabwysiadu Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad i ardystio Adroddiad Gwella Perfformiad 2018/19 er mwyn ei gyhoeddi cyn y dyddiad cau.Adroddiad statudol oedd hwn yn darparu trosolwg ôl-weithredol o berfformiad yn erbyn y blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor 2018/19 ac asesiad o amcanion y Cyngor yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Rhoddodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol gyflwyniad yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Fformat a chynnwys

·         Trosolwg o Berfformiad 2018/19

·         Trosolwg o Gynnydd

·         Uchafbwyntiau

·         Meysydd i’w Gwella

·         Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

·         Trosolwg o Berfformiad

·         Trosolwg o’r Grynodeb

·         Y Camau Nesaf

 

Ymhlith yr amrediad o lwyddiannau o dan bob thema roedd rhaglen adeiladu tai y Cyngor; cydnabyddiaeth genedlaethol i’r prosiect Cynnydd i Ddarparwr , cyfraddau ailgylchu gwastraff uchel a llwyddiannau arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd.Roedd meysydd a nodwyd ar gyfer gwelliant yn cael eu hymgorffori i Gynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20 gan gynnwys gostwng y nifer o ddyddiau i gwblhau Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl ac mae cynnydd eisoes yn cael ei wneud ar hyn.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r gostyngiad bach mewn perfformiad yn erbyn y safle cenedlaethol yn parhau i gael ei fonitro ac y dylai'r gefnogaeth gref gan y tri chorff rheoleiddio statudol ers amseru'r adroddiad ddarparu sicrwydd.Siaradodd am newidiadau deddfwriaethol yn y dyfodol a oedd yn darparu ar gyfer mwy o hyblygrwydd mewn adrodd am berfformiad ac atgoffodd Aelodau y dylai materion cylchol o ddiddordeb penodol yng Nghynllun y Cyngor gael eu cyflwyno i Rhaglenni Gwaith i'r Dyfodol Trosolwg a Chraffu.

 

O ran y llwyddiannau yn Nhreffynnon, siaradodd y Cynghorydd Palmer am y cydweithio cadarnhaol gyda busnesau yn ymwneud ag ail agor y Stryd Fawr a llwyddiannau Canolfan Hamdden Treffynnon a diolchodd i’r Cynghorydd Tudor Jones am hynny.

 

Cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) i ddarparu ymateb ar wahân i gwestiwn y Cynghorydd Carver ar y nifer o landlordiaid / asiantaethau gosod tai nad oeddent yn cydymffurfio gyda rheoliadau Rhentu Doeth Cymru.Cytunodd i siarad ag ef y tu allan i’r cyfarfod yn ymwneud â phryderon yngl?n â Th? Amlfeddiannaeth a dywedodd mai prif flaenoriaeth y tîm Iechyd Amgylcheddol oedd i orfodi deddfwriaeth amodau tai a chynllunio i sicrhau amodau byw digonol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Ellis eglurwyd fod y meysydd ar gyfer gwelliant yn ymwneud â pherfformiad ac y byddai ardaloedd risg uchel yn parhau i gael eu monitro.Fe allai peth risg barhau yn ymwneud â darpariaeth gofal preswyl yn dilyn cwblhau’r gwaith ar Marleyfield House, yn dibynnu ar lefelau’r galw. Roedd oedi wrth drosglwyddo gofal yn risg oedd yn parhau ac roedd yn annhebygol o wella i Wyrdd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones a ddylid gostwng y statws risg ar lefelau dyledion o ganlyniad i Gredyd Cynhwysol yng ngoleuni’r sylwadau. Dywedodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y dylai hwn barhau yn risg Coch i ganiatáu amser i fesurau lliniaru gael effaith ac y dylid parhau i’w adolygu. O ran buddsoddiad seilwaith gofynnodd y Cynghorydd Jones sut roedd Cynllun Glannau Dyfrdwy yn  ...  view the full Cofnodion text for item 50