Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 12/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 89)

89 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 79 KB

Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd Raglen Waith y Dyfodol er mwyn i’r Pwyllgor ei hystyried.

 

Ar fater y diweddariad o’r gwerthusiadau ym mis Mai, ailadroddodd y Prif Weithredwr yr ymrwymiad y byddai’n ofynnol i Brif Swyddogion fynychu os nad oedd eu portffolios wedi cyrraedd y raddfa gyflawni 90%.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jones a ddylai diweddariad ar sefyllfa Coronafeirws gael ei gynnwys yn rheolaidd ar Raglen Waith y Dyfodol. Byddai’r eitem yn cael ei thrafod yn nes ymlaen yn y cyfarfod.

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Johnson a’u heilio gan y Cynghorydd Cunningham.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi Rhaglen Waith y Dyfodol; a

 

(b)       Bod y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio Rhaglen Waith y Dyfodol rhwng cyfarfodydd, fel y bo’r angen.