Mater - cyfarfodydd

Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol

Cyfarfod: 14/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 57)

57 Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol pdf icon PDF 92 KB

Pwrpas:        Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Craffu & Trosolwg adnoddau corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a rhoddodd wybod y byddai angen i’r eitem ar Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru gael ei hailamserlennu yn y Flwyddyn Newydd.

 

Mewn ymateb i gwestiynau am yr eitemau sydd heb eu dyrannu ar hyn o bryd, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r adroddiad yn cael ei drefnu ar ôl i’r materion perthnasol gael eu datrys. Byddai’r gwaith o ddymchwel Camau 3 a 4 ar gampws Neuadd y Sir yn cychwyn erbyn dechrau’r Gwanwyn. Roedd disgwyl cael cadarnhad ar gyllid cyfalaf cenedlaethol ar brosiect Theatr Clwyd gyda’r Cabinet yn disgwyl adroddiad ym mis Rhagfyr ar bontio’r theatr i Ymddiriedolaeth annibynnol. Ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, byddai cynrychiolwyr ar draws y rhanbarth yn cael eu gofyn i gytuno i adroddiad templed ar drefniadau craffu i’w hystyried gan bob partner. Byddai hwn yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter ym mis Rhagfyr neu fis Ionawr.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Johnson ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; a

 

(b)       Bod Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd, trwy ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor,  yn cael ei awdurdodi i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, wrth i’r angen godi.