Mater - cyfarfodydd

Action Tracking

Cyfarfod: 17/10/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 47)

47 Olrhain Gweithred pdf icon PDF 88 KB

Pwrpas:        Rhoi gwybod i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr adroddiad cynnydd ar gamau’n deillio o gyfarfodydd blaenorol:

 

Wrth fynd ati i drafod y penderfyniadau craff ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB), pwysleisiodd y Cynghorydd Heesom bwysigrwydd trafod agored a rhannu gwybodaeth ag Aelodau etholedig yn gynnar.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) sicrwydd nad oedd unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto ac y byddai swyddogion o chwe chyngor Gogledd Cymru’n cyfarfod yn fuan i ystyried opsiynau ar gyfer y model Trosolwg a Chraffu a fyddai’n myned gerbron yr Aelodau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Heesom y dylid bod wedi sicrhau bod Aelodau’n ymwybodol fod y cyfarfodydd hynny wedi’u trefnu. Awgrymodd y Cynghorydd Jones eitem ar yr agenda yn y dyfodol i drafod y dull craffu drwy Ogledd Cymru.

 

Cymharodd y Cynghorydd Roberts â sefydliad GwE (y Gwasanaeth Effeithiolrwydd a Gwella Ysgolion Rhanbarthol) a’r rhyngweithio rhyngddo â phob un o’r chwe chyngor drwy bwyllgorau Trosolwg a Chraffu.

 

Eglurodd y Prif Swyddog y byddai’r cyfarfod arfaethedig yn ystyried yr holl faterion ar gyfer yr NWEAB y byddai angen cytuno arnynt yn gyntaf ar draws bob un o’r chwe chyngor.

 

Awgrymodd yr Hwylusydd efallai y byddai Aelodau’n dymuno bod yn bresennol yng nghyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter yn Rhagfyr i gael diweddariad ar y Fargen Twf. Roedd gwahoddiad hefyd i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd.

 

Wrth gydnabod y pryderon a godwyd, atgoffodd y Cynghorydd Shotton yr Aelodau am drafodaethau blaenorol ar yr amserlen angenrheidiol i gwblhau trefniadau a thynnodd sylw at y ffaith nad oedd y Fargen Twf wedi’i llofnodi eto.

 

Atgoffodd y Cynghorydd Jones yr Aelodau o’r cam y cytunwyd arno yn y cyfarfod blaenorol (penderfyniad 42(g)) i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar ganlyniad dadansoddiad ystadegol o nifer uwch yr achosion camddefnyddio sylweddau/alcohol gan rieni yn Sir y Fflint. Un cam pellach heb ei gyflawni oedd darparu data perfformiad gan Heddlu Gogledd Cymru oedd heb ei gynnwys yn yr atodiad diweddar a rannwyd yn y cyfarfod. Byddai cynnydd ar y ddau gam gweithredu’n cael ei gofnodi yn yr adroddiad Olrhain Camau misol nesaf.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at rannu adroddiadau pellach ar bont Sir y Fflint ‘pan oedd ar gael’ a gofynnodd am osod amserlen, hyd yn oed os oedd hynny’n golygu gohirio tan ddyddiad diweddarach. Cytunodd yr Hwylusydd i roi sylw i’r mater hwn gyda swyddogion.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed.