Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking (S & H)
Cyfarfod: 03/10/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (eitem 21)
21 Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 97 KB
Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
Dogfennau ychwanegol:
- Enc. 1 for Forward Work Programme and Action Tracking (S & H), eitem 21 PDF 84 KB
- Enc. 2 for Forward Work Programme and Action Tracking (S & H), eitem 21 PDF 165 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a thynnodd sylw at yr eitemau sydd i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor sydd i’w gynnal ar 14 Tachwedd. Gan gyfeirio at gyflwyniad ar Storfa Offer Cymuned Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCES) i’w gyflwyno yng nghyfarfod 30 Ionawr 2020, dywedodd bod awgrymiad i gynnal y cyfarfod yn NEWCES.Cytunodd y Pwyllgor i hyn.
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr adroddiad cynnydd ar y camau gweithredu a godwyd o’r cyfarfodydd blaenorol.Eglurodd bod y camau gweithredu sydd i’w penderfynu yn parhau ar yr adroddiad tracio camau gweithredu nes y bydd wedi'u datrys, ac yn cael eu hadrodd yn ôl yn y cyfarfod nesaf. Gofynnodd i’r Uwch Reolwr, Plant a’r Gweithlu, i roi diweddariad ar gynnydd y materion a godwyd o gyd-gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid, a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn ymwneud â phryderon y pwyllgor ynghylch y galw am adnoddau digonol i ateb yr heriau am leoliadau Tu Allan i’r Sir; a’r cwestiynau a godwyd gan Shaun Hingston ynghylch y data ymgynghori sy’n berthnasol i bobl ifanc.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;
(b) Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.