Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (OC)

Cyfarfod: 16/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 46)

46 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 81 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Newid Sefydliadol a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu'r adroddiad.  Darparodd wybodaeth gefndir a nododd fod adroddiad wedi cael gyflwyno i’r Cyngor Sir ar 27 Chwefror 2020, a fod Aelodau wedi cefnogi’r bwriad i leihau nifer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu o chwech i bump, a chytunwyd i argymell dadelfennu’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol i’r Cyngor. 

 

Dywedodd yr Hwylusydd fod adolygiad wedi’i gwblhau ar yr eitemau a restrir ar Raglen Waith i’r Dyfodol y Pwyllgor i benderfynu ble y dylid adrodd ar yr eitemau hyn yn y dyfodol. Roedd copi o eitemau’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol flaenorol a pha Bwyllgor Trosolwg a Chraffu fyddai’n eu hystyried ynghlwm â’r adroddiad. 

 

Rhoddodd yr Hwylusydd y wybodaeth ddiweddaraf ar gamau gweithredu a oedd yn codi o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor ac roedd manylion y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r camau yn atodiad 2 o’r adroddiad hwn.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr fod y Cyngor wedi gwneud penderfyniad i leihau nifer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, a fyddai’n dod i rym yn dilyn cyfarfod Blynyddol y Cyngor a oedd wedi’i drefnu ar gyfer 5 Mai, 2020, gofynnodd i Aelodau ystyried y newidiadau i gyfarfodydd Pwyllgorau a oedd ar y gweill yn sgil y Coronafeirws, gan gynnwys y newidiadau i ddeddfwriaeth i ganiatáu i gyfarfodydd blynyddol y Cyngor gael eu cynnal yn hwyrach yn y flwyddyn, ac felly byddai modd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol barhau fel Pwyllgor am y tro.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi eitemau’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol flaenorol a pha Bwyllgor Trosolwg a Chraffu fyddai’n eu hystyried yn y dyfodol; a

 

(b)       Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.