Mater - cyfarfodydd
Forward Work Programme and Action Tracking (OC)
Cyfarfod: 09/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol (eitem 22)
22 Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred PDF 96 KB
Pwrpas: I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Newid Sefydliadol a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
Dogfennau ychwanegol:
- Appendix 1 - Draft Forward Work Programme, eitem 22 PDF 300 KB
- Appendix 2 – Action Tracking for the Organisational Change OSC, eitem 22 PDF 70 KB
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yr adroddiad oedd yn amlinellu Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft presennol y Pwyllgor. Yna rhoddodd ddiweddariad ar yr eitemau oedd yn weddill ar yr atodiad Camau Gweithredu a gwybodaeth ar gynnydd eitemau eraill.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) at Wasanaeth Teledu Cylch Cyfyng y Cyngor a chadarnhaodd drafodaethau gyda Chomisiynydd yr Heddlu a Throsedd yngl?n â chyfraniadau ariannol uwch unwaith y byddai’r teledu cylch cyfyng wedi’i adleoli yn llwyddiannus yn Wrecsam.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.