Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (Env)

Cyfarfod: 12/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 34)

34 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu yr Amgylchedd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol  presennol ac amlinellwyd yr eitemau a restrwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor i’w gynnal ar 10 Rhagfyr.     

 

 

Roedd yr Hwylusydd hefyd yn cyfeirio at y camau oedd yn codi o’r cyfarfodydd blaenorol oedd ynghlwm i’r adroddiad ac adroddwyd ar gynnydd wrth eu cwblhau.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Shotton ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Sean Bibby.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;

 

(b)       Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.