Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking

Cyfarfod: 17/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd (eitem 18)

18 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 96 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu yr Amgylchedd a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol cyfredol er mwyn ei hystyried gan amlinellu’r materion a ganlyn:

 

·                Nifer yr adroddiadau a nodwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf sydd i’w gynnal yn Maes Glas ar 15 Hydref 2019, sydd o bosib angen eu symud i gyfarfod mis Tachwedd;

·                Yr awgrym am Gyfarfod ar y Cyd â’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter i ystyried Cynnig Twf Economaidd Gogledd Cymru; ac

·                Ymweliad Safle i Barc Adfer ar 10 Mawrth 2020.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at fersiwn drafft o Fframwaith Ddatblygu cenedlaethol Llywodraeth Cymru (LlC) ac awgrymodd y dylai gael ei ystyried gan y Pwyllgor. Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) bod y mater hwn wedi’i nodi i’w ystyried yng nghyfarfod mis Hydref o'r Gr?p Strategaeth Gynllunio.

 

Dywedodd y Cynghorydd David Evans y dylai gwybodaeth sy'n cael ei rhoi i aelodau unigol ar ôl pwyllgorau craffu gael ei chynnwys fel rhan o’r adroddiad tracio camau gweithredu fel bod pob aelod yn gallu elwa o weld y wybodaeth.Awgrymodd y dylai’r dull gweithredu hwn gael ei dreiglo i bob Pwyllgor Craffu. Croesawodd yr Aelodau’r awgrym a chytunodd yr hwylusydd i roi gwybod i’r Reolwr Gwasanaethau Democrataidd am y cais.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton am ddefnyddio plastigau wedi’u hailgylchu wedi’u cymysgu gyda cherrig mân a bitwmen oedd wedi cael ei godi mewn cyfarfodydd blaenorol. Cadarnhaodd y Prif Swyddog bod y gwaith yn symud yn ei flaen gyda’r cwmni sy’n rhan o’r fenter a chytunodd i ddarparu adroddiad cynnydd pan fyddai treialon Sir y Fflint wedi cael eu cwblhau.

 

Cododd yr Hwylusydd Craffu fater am amseroedd ymateb y Ganolfan Alwadau. Eglurodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) bod Tîm y Ganolfan Alwadau wedi symud o Alltami i ymuno â'r Tîm Tai yn Ewlo yn ddiweddar. Byddai’n darparu data perfformiad ar gyfer y 6 mis diwethaf ac awgrymodd y gallai Rheolwr y Ganolfan Alwadau fynychu cyfarfod yn y dyfodol petai angen.

 

Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad yn ffurfiol gan y Cynghorydd Shotton a cawsant eu heilio gan y Cynghorydd Evans.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Rhaglen Waith i’r Dyfodol fel y cyflwynwyd, yn cael ei chymeradwyo;

 

(b)       Rhoi awdurdod i’r Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor, amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu heb eu cwblhau.