Mater - cyfarfodydd
Public Services Ombudsman for Wales
Cyfarfod: 22/10/2019 - Cabinet (eitem 77)
77 Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Llythyr Blynyddol 2018/19 PDF 124 KB
Pwrpas: Rhannu Llythyr Blynyddol yr Ombwdsman a darparu trosolwg o lwyth achosion a pherfformiad Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 2018/19.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin yr adroddiad ar Lythyr Blynyddol Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer y Flwyddyn 2018/19, a oedd yn cynnwys manylion am berfformiad blynyddol y Cyngor mewn perthynas â chwynion yn erbyn gwasanaethau a dderbyniwyd ac archwiliwyd gan yr Ombwdsman yn ystod 2018/19.
Esboniodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod nifer y cwynion a dderbyniwyd gan yr Ombwdsman am awdurdodau lleol ar draws Gymru wedi cynyddu o 794 i 912 yn 2018/19. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsman yn falch bod awdurdodau lleol yn parhau i weithio gyda’i swyddfa i ddatrys llawer o’r cwynion yn gynnar.
Ynghlwm wrth yr adroddiad oedd copi llawn o’r Llythyr Blynyddol a oedd yn manylu ar berfformiad y Cyngor a data cymharol.
Roedd y Cyngor yn ymgymryd â gwaith i leihau nifer y cwynion a oedd yn cael eu hanfon at yr Ombwdsman ac roedd yn bwriadu cymryd camau pellach unwaith yr oedd canlyniad ymgynghoriad presennol yr Ombwdsman ar egwyddorion a gweithdrefnau’n ymwneud â’r grymoedd newydd a grëwyd gan y Ddeddf Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 yn hysbys.
Roedd camau gweithredu’r Cyngor yn cynnwys:
· Sesiynau hyfforddiant wedi’u targedu â Swyddogion Cynllunio er mwyn dysgu gwersi o benderfyniadau’r Ombwdsman dros y 12 mis diwethaf;
· Adolygiad o weithdrefn gwyno’r Cyngor mewn ymateb i bolisi pryderon a chwynion enghreifftiol yr Awdurdod Safonau Cwynion ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru;
· Ail-ddylunio hyfforddiant y gweithlu i gefnogi swyddogion er mwyn datrys cwynion yn effeithiol y tro cyntaf;
· Gwella safon yr ymatebion i gwynion drwy gyflwyno canllawiau mewnol a gwell ar gyfer swyddogion;
· Hyfforddiant ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned i hyrwyddo ymwybyddiaeth a phwysigrwydd y Cod Ymddygiad lle mae tystiolaeth o wrthdaro rhwng Aelodau, er mwyn helpu i ailosod ffiniau ymddygiad ar gyfer yr Aelodau;
· Data perfformiad amserol i’w ddosbarthu a’i drafod yn ystod uwch gyfarfodydd adrannol;
· Gweithio gyda chynghorau ar draws Gogledd Cymru a’r Ombwdsman i gofnodi data cwynion ar y cyd a fydd o bosib yn cael ei ddefnyddio i yrru gwelliant mewn gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer dinasyddion yng Nghymru.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi perfformiad blynyddol y Cyngor a nifer y cwynion a ddatryswyd
yn gynnar;
(b) Cefnogi’r camau i leihau nifer y cwynion a anfonir at swyddfa’r
Ombwdsman; a
(c) Chefnogi adolygiad o weithdrefn gwyno’r Cyngor ar ôl derbyn
polisi pryderon a chwynion enghreifftiol yr Awdurdod Safonau Cwynion ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.