Mater - cyfarfodydd

Community Safety Partnership Annual Report

Cyfarfod: 19/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol (eitem 36)

36 Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol pdf icon PDF 137 KB

Pwrpas:        Darparu sicrwydd a throsolwg i’r Aelodau o weithgareddau a chynnydd y Bartneriaeth yn 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a oedd yn rhoi trosolwg weithgareddau’r 12 mis diwethaf. Cafodd dyletswyddau statudol y Bartneriaeth eu cyflawni trwy Fwrdd Y Gwasanaethau Cyhoeddus a arweinir gan Sir y Fflint.

 

 Cafodd yr Aelodau eu cyflwyno i Sian Jones, Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnes; Richard Powell, Arweinydd Tîm Diogelwch Cymunedol; Rhiannon Edwards, Ymgynghorydd Rhanbarthol Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol; Arolygydd Rhanbarth Gareth Cust o Heddlu Gogledd Cymru; Gerwyn Davies, Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol; a Mike White, Rheolwr Partneriaeth Wrecsam a Sir y Fflint, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Cafwyd cyflwyniad manwl yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

 

·         Cyd-destun

·         Grwpiau Cyflawni Diogelwch Cymunedol

·         Cyflawniadau

·         Perfformiad

·         Rhyngweithio gyda’r Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel

·         Blaenoriaethau lleol ar gyfer 2018/19

 

Adroddodd Arweinydd y Tîm Diogelwch Cymunedol bod gostyngiad wedi bod mewn lefelau troseddau dioddefwyr yn Sir y Fflint dros y flwyddyn ddiwethaf a bod gostyngiad wedi bod ledled gogledd Cymru mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhoddodd drosolwg o’r rhyngweithio sydd wedi digwydd gyda’r Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel ar ardaloedd blaenoriaeth i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched, oedolion diamddiffyn a phobl ifanc, yn ogystal â gwarchod cymunedau.

 

Siaradodd y Cynghorydd Johnson am y cysylltiadau rhwng tlodi, anghydraddoldeb a throsedd. Mewn ymateb i sylwadau am droseddau casineb, byddai penodi Swyddog Cydlyniant Cymunedol i Sir y Fflint (gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru) yn helpu i annog cymunedau i adrodd am ddigwyddiadau.

 

Soniodd yr Arolygydd Gareth Cust am y dulliau amrywiol sydd ar gael i adrodd am droseddau a chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion o faterion megis troseddau casineb a Llinellau Sirol. Soniodd hefyd am raglen hyfforddi gyda swyddogion yr heddlu yn Sir y Fflint i adnabod effeithiau Profiadau Niweidiol Yn Ystod Plentyndod (ACE).

 

 Wrth gydnabod y pwysau sydd ar adnoddau’r Heddlu, cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at yr atodiad hwyr i adroddiad Monitro Cynllun y Cyngor a welir yn ddiweddarach yn y Rhaglen, lle'r oedd rhywfaint o ddata perfformiad yr Heddlu ar goll.  Roedd hyn yn cynnwys nifer y digwyddiadau o gam-drin domestig a thrais rhywiol sy'n cael eu hadrodd a oedd yn faes blaenoriaeth.

 

Wrth sôn am gymhlethdod y pwnc, siaradodd y Prif Weithredwr am yr angen i ddeall uniondeb y data a ddarperir gan Heddlu Gogledd Cymru ac y byddai angen rhannu ffigwr manwl gywir gyda’r Pwyllgor unwaith y byddai ar gael.

 

Cytunodd yr Ymgynghorydd Rhanbarthol Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol bod angen i'r data hwn fod yn fwy clir oherwydd y ffordd y caiff digwyddiadau eu cofnodi. Er mwyn datrys hyn, roedd dadansoddwyr yn adolygu'r dull o gofnodi digwyddiadau er mwyn ymgorffori pob elfen o drais domestig a darparu darlun cywir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones y dylai esboniad fod wedi cael ei gynnwys i helpu i ddeall yr adroddiad er mwyn cymharu perfformiad flwyddyn ar ôl blwyddyn. Cytunodd y Prif Weithredwr a dywedodd mai dim ond y ffigwr yn yr adroddiad gwreiddiol y gallai'r Pwyllgor ei dderbyn ar hyn o bryd gyda'r cafeat ynghylch dadansoddi data parhaus.

 

Cyfeiriodd yr Arolygydd Cust at newidiadau arwyddocaol mewn cofnodi troseddau a chydymffurfio  ...  view the full Cofnodion text for item 36