Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (E &Y)

Cyfarfod: 30/01/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 41)

41 Rhaglen Gwaith I'r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Addysg ac Ieuenctid a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol a oedd wedi’i diweddaru ers y cyfarfod diwethaf, ac a oedd ynghlwm yn Atodiad 1. Roedd yr holl gamau gweithredu yn codi o’r cyfarfod blaenorol ar 20fed Rhagfyr wedi’u cwblhau.

 

            Cyflwynodd y Cynghorydd Kevin Hughes adroddiad am gyfarfod diweddar y gwnaeth gymryd rhan ynddo yng Nghaerdydd yn dilyn ystyriaeth o’i rybudd o gynnig yn gofyn am gymorth i gyflwyno Hyfforddiant Cymorth Cyntaf mewn Ysgolion gyda sefydliadau eraill fel y Groes Goch yn bresennol. Sir y Fflint oedd yr unig awdurdod lleol a oedd wedi anfon cynrychiolydd. Cafodd y Gr?p ei sefydlu i sicrhau bod Hyfforddiant Cymorth Cyntaf ac Achub Bywyd ar gael mewn ysgolion a’r gobaith oedd y byddai hyfforddiant adfywio’r galon a’r ysgyfaint (CPR) a Diffibriliwr hefyd yn dod yn orfodol.  Dywedodd y Cynghorydd David Williams fod hyfforddiant Cymorth Cyntaf eisoes yn rhan o sesiynau ABCh yn ei ysgol ef, a dywedodd ei fod yn hapus i roi gwybodaeth i aelodau am gynnwys yr hyfforddiant hwn yn ei ysgol.

 

            Gofynnodd y Cynghorydd David Mackie pam roedd yr eitem ar Dlodi Plant wedi cael ei symud i’r cylch nesaf. Mewn ymateb, cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ddiweddariad ac esboniodd fod y Strategaeth ddrafft yn dal i gael ei llunio ac y byddai’n cael ei chyflwyno gerbron y cyfarfod nesaf ym mis Mawrth 2020. 

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Dave Mackie a’u heilio gan y Cynghorydd Janet Axworthy.                              

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)     Cymeradwyo’r fersiwn ddiwygiedig o Raglen Gwaith i’r Dyfodol;

 

(b)     Bod yr Hwylusydd, mewn ymgynghoriad gyda Chadeirydd y Pwyllgor, yn cael ei awdurdodi i amrywio Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, fel y bo’r angen; a

 

(c)     Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed i gwblhau’r materion sy’n weddill.