Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking (E &Y)

Cyfarfod: 26/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid (eitem 18)

18 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 97 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Addysg ac Ieuenctid a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol a oedd wedi cael ei diweddaru ers y cyfarfod diwethaf ac ynghlwm wrth Atodiad 1. Tynnodd sylw at yr eitemau i’w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 7 Tachwedd 2019.

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at gamau gweithredu’r cyfarfod blaenorol ac adroddodd ar y canlyniadau fel y manylwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad. Dywedodd bod adroddiad ar waith y Gwasanaeth Cerdd wedi cael ei ychwanegu at y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol fel eitem i’w threfnu’n ddiweddarach yn y flwyddyn.    

 

Cyfeiriodd yr Hwylusydd at gamau gweithredu cyfarfod y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf, ac esboniodd fod llythyr wedi cael ei anfon at Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn amlinellu pryderon y Pwyllgor, ar gyfer yr Awdurdod ac ysgolion yn Sir y Fflint, ynghylch goblygiadau o ran adnoddau’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Dywedodd bod y Gweinidog wedi ymateb ac y byddai’n anfon copi o’r llythyr a anfonwyd gan y Cadeirydd a’r ymateb a dderbyniwyd at y Pwyllgor ar ôl y cyfarfod. Yn ogystal, cyflwynodd yr Hwylusydd yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau gweithredu yn dilyn y pryderon a godwyd gan y Cydbwyllgor yngl?n â’r angen am adnoddau digonol  i ateb heriau lleoliadau y Tu Allan i’r Sir. Dywedodd y byddai llythyr yn cael ei anfon at Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn nodi achos busnes yr Awdurdod ac yn gofyn am gyllid, ac y byddai’n anfon copi o’r llythyr at y Pwyllgor cyn gynted ag y byddai ar gael.

 

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Cynhwysiant a Dilyniant y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyniad Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ac fe gadarnhaodd, yn dilyn cyfnod ymgynghori, fod Llywodraeth Cymru wedi oedi cyflwyniad y Ddeddf er mwyn darparu ar gyfer yr addasiadau angenrheidiol.  Rhagwelwyd y byddai’r Ddeddf nawr yn dod i rym yn 2021 ond roedd rhaid aros i weld  a fyddai cyllid ychwanegol i gynorthwyo â rhoi’r Ddeddf ar waith ar gael.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dave Mackie a fyddai modd ychwanegu eitem ar Fformiwla Ariannu Ysgolion at Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor i’w hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol. Esboniodd y Rheolwr Cyllid Ysgolion fod y Fformiwla Ariannu Ysgolion yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac ei fod yn cael ei adolygu’n flynyddol gyda’r Fforwm Cyllideb Ysgolion. Cytunodd i ddarparu adroddiad i’r Pwyllgor yn ddiweddarach yn y flwyddyn.  

 

Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Geoff Collett ynghylch yr angen am gyllid digonol ar gyfer ysgolion, esboniodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) bod ymgyrch gadarn wedi’i chyflwyno i Lywodraeth Cymru gan y Prif Weithredwr, Arweinydd y Cyngor, a Chymdeithasau eraill, i sicrhau bod llywodraeth leol yn derbyn rhan deg o unrhyw gyllid ychwanegol er mwyn ateb y pwysau ariannol o ddyfarniadau tâl athrawon a chyfraniadau pensiwn a hefyd yr angen am fuddsoddiad sylweddol mewn Addysg.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at Fargen Dwf Gogledd Cymru a mynegodd bryderon ynghylch cysylltedd digidol  ...  view the full Cofnodion text for item 18