Mater - cyfarfodydd

Forward Work Programme and Action Tracking

Cyfarfod: 11/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter (eitem 45)

45 Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol a Olrhain Gweithred pdf icon PDF 82 KB

Pwrpas:        I Ystyried y flaenraglen waith Pwyllgor Trosolwg & Chraffu Cymunedau a Menter a rhoi gwybodaeth i’r Pwyllgor o’r cynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith I’r Dyfodol ddiweddaraf ac adroddodd ar y trefniadau sy'n cael eu gwneud i gynnal gweithdy ar gyfer bob Aelod ar Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru (NWEAB) ym mis Mai, 2020. Byddai manylion dyddiad, amser a lleoliad y gweithdy cael ei ddosbarthu i'r Aelodau maes o law.

 

            Adroddodd yr Hwylusydd hefyd, ar ôl ymgynghori â'r Cadeirydd, bod trefniadau wedi'u gwneud i'r Pwyllgor dderbyn sesiwn friffio ar SARTH a'r Polisi Dyraniadau cyn dechrau cyfarfod nesaf y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 29 Ebrill, 2020.

 

            I gloi, nododd yr Hwylusydd fod Swyddfa Archwilio Cymru yn ceisio siarad â nifer fach o Aelodau'r Pwyllgor am y Gwasanaeth Ôl-ddyledion Rhent. Dywedodd y byddai'n anfon e-bost at y Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod i ofyn am wirfoddolwyr i gymryd rhan mewn cyfarfod gyda Swyddfa Archwilio Cymru. 

 

            Mynegodd y Cynghorydd Patrick Heesom ei siom nad oedd y gweithdy ar gyfer bob Aelod ar NWEAB yn cael ei gynnal tan fis Mai a dywedodd fod angen i’r Aelodau graffu ar y fargen ar frys. Esboniodd yr Hwylusydd, yn dilyn ceisiadau gan nifer o Bwyllgorau Craffu am adroddiad ar NWEAB, teimlwyd mai gweithdy i ganiatáu i'r holl Aelodau gyfrannu fyddai'r ffordd orau ymlaen. Y rheswm fod mis Mai yn cael ei gynnig fel dyddiad oedd bod angen gweithdai ychwanegol i ganiatáu i’r Aelodau ystyried Cynllun y Cyngor 2020/21 a'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ddiwygiedig (MTFS) yn gyntaf er mwyn caniatáu ystyried cyn cyflwyno adroddiadau i'r Cyngor Sir.  

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn ystyried y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol drafft a chymeradwyo/newid fel bo’r angen;

 

 (b)      Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a

 

 (c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.